Cynllun Cymdogaeth – Sir Ddinbych Wledig, Sir y Fflint, Wrecsam

Ar hyn o bryd mae Tai Gogledd Cymru yn rheoli dros 40 o gartrefi yn Wrecsam, Dinbych, Rhuthun, Llanfair Dyffryn Clwyd a Llangollen, gyda mwy o gartrefi newydd ar y gweill, gan gynnwys ein cartrefi cyntaf yn Sir y Fflint.

Mae ein heiddo yn cynnwys tai, fflatiau, a byngalos, y mae llawer ohonynt ar ddatblygiadau newydd ac wedi’u rhentu ar lefelau rhent canolraddol, wedi’u dyrannu o’r Gofrestr Tai Fforddiadwy a weithredir gan Tai Teg.