Mae gan Tai Gogledd Cymru Dîm Incwm cyfeillgar sy’n wrth law i’ch helpu. Mae ein tîm wrth law i roi cymorth a chyngor i chi, ar unrhyw beth o gyllidebu, budd-daliadau a sut i gael y cyfraddau cyfleustodau gorau Help a Chymorth.
Cysylltwch â Ni
Gallwch gysylltu ag Incwm ar 01492 572727 neu [email protected].
Os ydych yn cael trafferth i dalu eich rhent, mae’n bwysig iawn eich bod yn cysylltu â ni cyn gynted â phosibl. Rydym yma i helpu a byddwn yn asesu’r sefyllfa ac yn rhoi cymorth a chyngor i chi. Os na allwn eich helpu gallwn eich cyfeirio at asiantaeth allanol a all eich helpu, neu roi cyngor i chi ar y gwefannau neu’r asiantaethau gorau i chi gysylltu â nhw.