Tenantiaid: mae cyfraith tai yn newid (Rhentu Cartrefi)

Mae Rhentu Cartrefi yn darparu’r newid mwyaf i gyfraith tai yng Nghymru ers degawdau. Mae’n cynnig mesurau amddiffyn gwell i denantiaid a thrwyddedeion, ac yn egluro eu hawliau a’u cyfrifoldebau. Am fod Rhentu Cartrefi yn berthnasol i denantiaid a thrwyddedeion, fe’u gelwir yn ‘ddeiliaid contract’ o dan y ddeddf newydd. Bydd eich landlord yn rhoi ‘contract meddiannaeth’ i chi yn lle eich cytundeb tenantiaeth neu eich cytundeb trwyddedu.

Mae cytundebau newydd yn cael eu postio allan rwan. Os nad ydych wedi derbyn eich un chi, peidiwch â phoeni, gan ein bod yn anfon y rhain mewn sypiau. Nid oes angen i chi wneud unrhyw beth gyda’ch contractau newydd, dim ond ei gadw mewn lle diogel.

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi y ddogfen hawdd I’w ddarllen yma efo’i gilydd sydd yn egluro mwy:

Canllaw i denantiaid

Bydd y cwestiynau cyffredin (FAQ) isod hefyd yn helpu i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych:

Beth yw Deddf Rhentu Cymru?

Yn 2016, pasiodd y Senedd Ddeddf Rhentu Cartrefi gyda’r nod o wneud pethau’n symlach a haws i landlordiaid a thenantiaid i rhentu cartrefi yng Nghymru. Mae’n cyflwyno nifer o newidiadau i ddeddfau tenantiaeth ac mae’n berthnasol i’r sector rhent cymdeithasol a phreifat.

Pryd fydd yn digwydd?

  • Bydd hyn yn digwydd o 1af Rhagfyr 2022 (nodwch y dyddiad gwreiddiol oedd 15 Gorffenaf 2022 ond mae hyn wedi newid bellach).

Beth yw pwrpas y Deddf Rhentu Cartrefi?

  • Symleiddo cytundebau a gwella cyflwr cartrefi rhentu Cymru
  • Cynnig fwy o ddiogwelwch a sicrwydd i denantiad ac landlordiaid.

Pwy fydd hyn yn effeithio?

  • Pob landlord – preifat a chymdeithasol
  • Pob tenant – preifat a chymdeithasol

Pam fod hyn yn digwydd?

  • I wneud pethau’n symlach a haws i landlordiaid a thenantiad I rhentu cartrefi yn Nghymru.

Beth sydd yn newid?

  • Termonoleg newydd e.e. Tenantiaeth fel Contract Meddiannaeth â Tenant yn cael eu adnabod fel Deiliad Contract.
  • Contract Meddiannaeth yn cymrud lle Cytundeb Tenantiaeth.
  • Mwy o sicrwydd – 6 mis o rybudd ar yr amod nad yw’r contract yn cael ei dorri.
  • Rhaid bob cartref fod yn ddiogel – er engraifft larymau mwg sy’n gweithio a phrofion diogelwch trydanol.
  • Dulliau teg a chyson i ymddygiad gwrth gymdeithasol.
  • Mwy o hawliau olyniaeth i basio eich cartref ymlaen
  • Deiliad Contract yn gallu cael ei ychwanegu neu dynnu heb gorfod dod â contract i ben.
  • Landlordiad yn gallu adfeddiannu eiddo sydd wedi ei adael heb orchymun llys.

Beth mae hyn yn ei olygu i mi fel tenant?

  • Symleiddo ac gwella hawliau chi fel tenant
  • Gwella sut mae landlordiaid yn rheoli cartrefi yn Gymru.

Sut fydd y Ddeddf yn effeithio arna i?

  • Bydd tenanitiad presennol yn derbyn contact o fewn 6 mis o 1af Rhagfyr 2022, fydd yn cymryd lle eich Cytundeb Tenantiaeth.
  • Bydd tenantiaid newydd o 1af Rhagfyr 2022 yn arwyddo contract yn y ffordd arferol ac o fewn 14 diwrnod.
  • Y contract yn cynnig fwy o ddiogelwch a sicrwydd i chi.

Ydi cydymffurfio hefo’r ddeddf yma yn mynd i gostio arian i mi neu effeithio ar fy rhent?

  • Na, ni fydd y ddefdd yma yn effeithio ar eich rhent na costio dim i chi.

Pryd fyddai yn derbyn fy nghontract newydd?

  • Anfonir contractau o 20 Mawrth 2023. Os nad ydych wedi derbyn eich un chi, peidiwch â phoeni, gan ein bod yn anfon y rhain mewn sypiau.

Fyddai angen neud unrhyw beth?

  • Yr unig beth fyddwch angen gwneud yw darllen eich contact ac cyfarwyddro eich hunain ar eich hawliau ac cyfrifoldebau.