Anwedd/Lleithder

Lawrlwytho poster

Mae pob cartref yn dioddef o anwedd/lleithder i ryw raddau. Caiff aer llaith cynnes ei greu wrth goginio, golchi dillad ac ymolchi. Mae hyd yn oed anadlu yn rhyddhau cryn dipyn o leithder i’r awyr.

Mae anwedd yn digwydd pan fydd aer llaith cynnes yn cyffwrdd ag arwyneb oerach a defnynnau dŵr yn ffurfio. Gallwch weld enghreifftiau o anwedd ar ddrychau ar ôl ymolchi neu ffenestri ystafell wely ar foreau oer. Bydd yr un broses yn digwydd ar waliau a nenfydau yn enwedig os ydyn nhw’n oer ac wedi’u hawyru’n wael.

Mae anwedd yn fwyaf tebygol o ddigwydd mewn mannau lle nad oes llawer o aer yn symud yn enwedig mewn corneli, ar ffenestri neu’n agos at ffenestri, a thu ôl i wardrob neu gwpwrdd. Yn wahanol i leithder sy’n treiddio neu’n codi, nid yw anwedd fel arfer yn gadael marc ond fe all arwain at dwf llwydni, fel arfer smotiau du, ar waliau, nenfydau ac arwynebau eraill.

Mae anwedd fel arfer yn effeithio ar eiddo rhwng Hydref ac Ebrill pan fydd awyru cartrefi ar ei isaf. Yn ystod y misoedd oerach hyn mae pobl yn tueddu i gadw ffenestri a drysau ar gau sy’n caniatáu i anwedd dŵr gronni yn y cartref.

Rheoli Anwedd/Lleithder

Mae’n bwysig cadw anwedd mewn eiddo dan reolaeth oherwydd gall arwain at broblemau mawr i’r adeilad ac i chi a’ch teulu. Gellir lleihau anwedd trwy fynd i’r afael â thri phrif beth:

  1. Lleihau faint o leithder sy’n cael ei ryddhau i’r awyr.
  2. Sicrhau awyru a chylchrediad aer da.
  3. Sicrhau gwres digonol ac osgoi mannau oer yn y cartref.

Os oes gennych broblem anwedd byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i’ch helpu trwy wneud yn siŵr bod eich gwres yn gweithio’n gywir, trwsio (neu osod) ffaniau tynnu aer os oes angen a sicrhau inswleiddio digonol ac addas. Ond mae’r effaith fwyaf yn cael ei wneud gan y bobl sy’n byw yn y cartref.

  • Defnyddiwch eich gwres a gwnewch yn siŵr bod yr aer yn cylchredeg yn dda.
  • Gosodwch eich system gwresogi i roi gwres cefndir lefel isel cyson gan geisio gwneud yn siŵr nad oes unrhyw newidiadau cyflym yn y tymheredd sy’n annog anwedd.
  • Mae angen lefel isel o wres ac awyru hyd yn oed ar ystafelloedd nad ydych chi fel arfer yn byw ynddyn nhw.
  • Dylech osgoi defnyddio gwresogyddion paraffin a nwy potel cludadwy oherwydd eu bod nhw’n cynhyrchu llawer o leithder.
  • Caewch ddrysau’r gegin a’r ystafell ymolchi pan fyddan nhw’n cael eu defnyddio. Os oes gennych ffaniau tynnu aer gwnewch yn siŵr eich bod yn eu defnyddio, os nad oes gennych ffaniau o’r fath, agorwch ffenestr a’i gadael ar agor am ychydig ar ôl i chi pan orffen coginio neu ymolchi.
  • Dylech orchuddio sosbenni coginio a pheidiwch â gadael i degell barhau i ferwi – bydd hyn yn lleihau’r stêm sy’n cael ei ryddhau.
  • Lle bynnag y bo modd, sychwch ddillad ar ôl eu golchi yn yr awyr agored neu mewn ystafell ymolchi gaeedig gyda ffenestr ar agor neu ffan tynnu aer ymlaen – peidiwch byth â sychu dillad gwlyb ar wresogyddion neu reiddiaduron.
  • Os ydych chi’n defnyddio peiriant sychu dillad, mae’n well defnyddio math hunan-anweddu (‘self-condensing’).
  • Ceisiwch wella cylchrediad aer – agorwch ffenestri yn aml er mwyn helpu i dynnu aer llaith o’r eiddo. Os oes gan eich ffenestri awyryddion diferu, gwnewch yn siwr eu bod bob amser yn rhannol agored ac eithrio mewn tywydd oer iawn.
  • Os oes gennych awyrydd diferu peidiwch â’i ddiffodd, mae wedi cael ei gynllunio i redeg yn dawel ar gyflymder isel trwy’r amser.
  • Peidiwch â rhoi dillad, llyfrau neu eitemau eraill ar ben gwresogyddion neu reiddiaduron gyda. Peidiwch â blocio gwresogyddion neu reiddiaduron gyda dodrefn neu eiddo personol – gwnewch yn siŵr bod aer yn gallu llifo o’u cwmpas fel eu bod nhw’n gallu gweithio’n effeithiol.
  • Dylech awyru pob cwpwrdd a wardrob – agorwch y drysau’n aml gan osgoi rhoi gormod o bethau ynddyn nhw gan fod hynny’n atal yr aer rhag cylchredeg.
  • Dylech ganiatáu i aer gylchredeg mewn dodrefn ac o’u cwmpas. Gadewch ofod rhwng dodrefn a’r waliau. Os yn bosibl, ceisiwch osgoi gosod dodrefn wrth ochr waliau allanol.
  • Peidiwch â blocio mannau awyru parhaol.
  • Adroddwch am wresogyddion, rheiddiaduron a ffaniau tynnu aer sydd ddim yn gweithio fel y gallwn eu trwsio.
  • Pan fydd anwedd yn ymddangos ar arwynebau fel ffenestri a siliau ffenestr, sychwch yr anwedd oddi yno efo cadach, gwasgwch y dŵr o’r cadach, ond peidiwch â’i roi ar reiddiadur i sychu, bydd hyn ond yn rhoi’r lleithder yn ôl i’r awyr.
  • Peidiwch â tharfu ar inswleiddio llofft na storio pethau yn y llofft sy’n gwasgu lawr ar y deunydd inswleiddio.
  • Gall y broses o leihau anwedd yn y cartref gymryd sawl wythnos; os ydych chi am gyflymu’r broses yna meddyliwch am brynu neu logi dadleithydd (‘dehumidifier’).

Delio efo llwydni

  • Yr amser gorau i ddelio efo llwydni yw cyn iddo ymddangos, hyd yn oed os nad oes gennych unrhyw arwyddion o lwydni, gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn yr holl gyngor ar reoli anwedd neu leithder.
  • Os yw llwydni yn ymddangos dylech ei lanhau ar unwaith, gellir tynnu ychydig o smotiau duon yn hawdd heb fod angen i ailaddurno, ond os byddwch chi’n ei adael yna fe all ddatblygu’n broblem fwy difrifol.
  • Gallwch dynnu llwydni trwy sychu’r arwynebau sydd wedi’u heffeithio gyda deunydd golchi sy’n lladd ffwng (gwnewch yn siŵr eich bod chi’n darllen ac yn dilyn cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr). Os oes angen, gellir ailaddurno arwynebau gan ddefnyddio paent gwrth-llwydni neu baent sy’n lladd ffwng a fydd yn atal llwydni rhag ailymddangos.
  • Dylai unrhyw ddillad efo llwydni arnyn nhw gael eu glanhau’n sych. Dylai carpedi sydd efo llwydni arnyn nhw gael eu golchi efo siampŵ.
  • Dylech osgoi brwsio neu hwfro llwydni oherwydd gall hyn ledaenu sborau llwydni ac achosi problemau anadlu.

Os nad ydych wedi gweld gwelliant amlwg ar ôl dilyn ein cyngor, neu os ydych yn amau ​​achos mwy difrifol o leithder, cysylltwch â ni ar 01492572727 a byddwn yn trefnu i syrfëwr alw heibio i gael golwg.