Manteision mynd yn ddigidol

Fel arweinydd digidol yn Tai Gogledd Cymru, rwyf byth a hefyd yn tynnu sylw at rinweddau gwneud mwy o bethau yn ddigidol.

ipad-820272_1920

Dyma rai rhesymau pwysig.

  • Amcangyfrifir y gallai un cartref arbed cyfartaledd o £560 y flwyddyn yn unig drwy fod ar-lein;
  • Wrth i dechnoleg ddod yn fwy prif ffrwd, mae hefyd wedi dod yn fwy fforddiadwy;
  • Gall gwasanaethau ar-lein olygu bod gwasanaethau allweddol ar gael i denantiaid 24/7.

Yn Tai Gogledd Cymru, rydym ar ein taith ddigidol ein hunain.

Ar y cyd efo grŵp o denantiaid rydym wedi gallu adolygu, adnewyddu ac ail-lansio ‘Fy TGC‘, porth i denantiaid lle gall tenantiaid logio i mewn a gwneud pethau fel gwirio eu cyfrif rhent, diweddaru eu manylion cyswllt neu archebu gwaith trwsio, ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos. Mae hyn yn gynnig ‘ychwanegol’ go iawn i’n tenantiaid.

Nid ydym am orffwys ar ein rhwyfau chwaith. Mae gennym gynlluniau i wella Fy TGC ymhellach drwy gynnig amrywiaeth mwy eang o wasanaethau drwy’r porth, yn ogystal â gwella profiad tenantiaid. Mae hyn yn cael ei gyfuno efo ni yn edrych ar ffyrdd o leihau nifer y tenantiaid sydd wedi’u cau allan yn ddigidol, drwy gynnig sesiynau hyfforddi digidol, yn ogystal ag edrych ar ddatblygu grŵp o denantiaid fel hyrwyddwyr digidol.

Os hoffech gymryd rhan mewn helpu i ddatblygu gwasanaethau digidol yn Tai Gogledd Cymru neu hyd yn oed ddod yn hyrwyddwr digidol i denantiaid, cysylltwch naill ai efo [email protected].

Yn ôl i'r Archif