Mae Ruth Lanham-Wright, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cartrefi, yn dathlu 20 mlynedd yn gweithio yn TGC ar 29 o Gorfennaf. Dechreuodd gasglu rhent ar gyfer Tai â Chymorth ac mae hefyd wedi gweithio i’r tîm Cyllid. Mae ganddi brofiad a gwybodaeth anhygoel o TGC a straeon gwych i’w hadrodd.

Felly hoffem anfon cyfarchion arbennig ati oddi wrth bawb ohonom yn TGC, gan ddiolch iddi am ei chyfraniad anhygoel bob dydd.

Manteisiwyd ar y cyfle i ofyn rhai cwestiynau i Ruth am ei 20 mlynedd gyda ni yma, oedd yn gyfle gwych iddi fyfyrio a meddwl yn ôl.

A allwch chi roi crynodeb gyrfa byr o’ch amser yn TGC

Dechreuais yn TGC yn casglu rhent ar gyfer y tîm Tai â Chymorth. Yn fuan wedyn dechreuais ymwneud â cheisiadau am arian grant ac anfonebu asiantaethau ac mi ddaeth hynny â mi i sylw’r Pennaeth Cyllid. Cysylltodd y Pennaeth â mi a gofyn a fyddwn yn gwneud cais am swydd Uwch Swyddog Cyllid. Roedd hyn yn dipyn o fedydd tân gan fod y tîm yn un anhapus ac mi wnaeth pawb adael ychydig cyn diwedd y flwyddyn ariannol. Roedd hyn yn fendith mewn gwirionedd wrth i mi recriwtio tîm gwych a oedd yn cynnwys John! Bûm yn rheolwr llinell ar y tîm cyllid am rai blynyddoedd ac yna, yn ystod yr ailstrwythuro, llwyddais i gael fy mhenodi i swydd Rheolwr y Timau Cyllid ac Incwm. Yn ogystal â’r swydd hon, cefais hefyd gynnig nawdd a chefnogaeth gan y sefydliad i gymhwyso fel Cyfrifydd. Enillais Gradd Dosbarth 1af mewn Cyfrifeg Gymhwysol ac rwy’n dal i weithio’n galed ar y papurau ôl-radd. Mae gennyf ddau arholiad ar ôl i gymhwyso’n llawn fel Cyfrifydd Siartredig Ardystiedig. Cefais gyfle i weithio ar lefel Uwch Arweinydd pan wnes i lenwi i fewn dros Emma adeg ei chyfnod mamolaeth.

Tra’n gweithio ym maes cyllid, cefais fy secondio nifer o weithiau i’r tîm cynnal a chadw i wneud gwaith datrys problemau (rhoi trefn ar y llanast!) gyda’r cyllidebau, costau gwasanaeth, systemau a phrosesau. Rhoddodd hyn y cyfle i mi wneud cais a llwyddo i gael swydd Cyfarwyddwr Cynorthwyol Dros Dro Cartrefi. Yna cefais fy mhenodi i’r swydd hon yn barhaol ac rwy’n dal i fwynhau gweithio gyda’r Tîm Cartrefi.

Beth yw’r prif newidiadau rydych chi wedi eu gweld?

Rwyf wedi gweld llawer o newid dros y blynyddoedd, o dwf cyflym i dwf araf a llawer o newidiadau yn yr arweinyddiaeth. Mae arweinyddiaeth newydd bob amser yn dod â diwylliant a chyfleoedd newydd. Mae’n debyg mai’r newid diweddar i weithio mewn ffordd ystwyth a diwylliant o ymddiriedaeth a gofal i’n tenantiaid yw’r newid mwyaf i mi ei weld yn ystod fy amser ac, yn fy marn i, mae’n newid cadarnhaol iawn.

Beth yw’r uchafbwynt yn eich cyfnod yn gweithio yn TGC?

Roedd ennill fy ngradd yn uchafbwynt mawr i mi. Roeddwn i ychydig yn bengaled yn fy arddegau hwyr ac mi wnes i adael yr ysgol fwy neu lai yn ystod fy Lefel A felly roedd ennill Gradd 1af yn gyfle gwych, ac rwy’n ddiolchgar i Tai Gogledd Cymru am hynny. Mae symud ymlaen yn fy ngyrfa o fod yn swyddog iau i fod yn aelod o’r Uwch Dîm Arwain hefyd wedi bod yn uchafbwynt i mi.

Beth ydych chi’n ei fwynhau am weithio yn TGC?

Rwyf wedi cael llawer o gyfleoedd gan Tai Gogledd Cymru dros y blynyddoedd ac rwyf mor ddiolchgar am hynny. Rwyf wedi gweithio mewn sawl adran ac ar wahanol lefelau. Ni allaf gredu fy mod wedi bod yma ers 20 mlynedd, ac rwyf wrth fy modd fy mod i’n dal i ddysgu bob dydd.

Rwyf wedi gweld llawer o newid personol dros y blynyddoedd hynny, ac mae’r sefydliad wedi fy nghefnogi ym mhob sefyllfa. O gael babi a magu plentyn mewn amgylchedd sy’n ystyriol o deuluoedd i’r gofal, i’r hyblygrwydd a’r gefnogaeth anhygoel a roddodd y sefydliad a chydweithwyr yn y tîm Pobl Hŷn i mi a’m rhieni pan ddirywiodd eu hiechyd. Roedd y gofal a roddodd y tîm i fy nhad yn ei ddyddiau olaf a’r dyddiau a dreuliwyd yn chwilio am fy mam a oedd yn crwydro wrth i’w dementia ddatblygu yn anhygoel ac roeddwn yn teimlo fy mod i hefyd yn cael gofal mawr.

Yr hyn rwy’n ei fwynhau fwyaf am fy ngwaith yn Tai Gogledd Cymru yw fy mod i’n gallu defnyddio fy sgiliau a’m doniau, sy’n tueddu i fod yn rhai “cefn swyddfa” er mwyn cael ymdeimlad o bwrpas gwerth chweil gan fy mod i’n cyfrannu at y gwaith rydym yn ei wneud i newid bywydau pobl er gwell.

Os yw stori Ruth wedi eich ysbrydoli ac yr hoffech weithio gyda TGC, cymerwch golwg ar ein swyddi gwag https://www.nwha.org.uk/cy/careers/current-vacancies/ #GwneudGwahaniaeth.