Arolwg Cyfranogiad Preswylwyr – Cyfle i ennill taleb siopio werth £20!
Rydym yn datblygu Strategaeth Cyfranogiad Preswylwyr newydd a byddem yn gwerthfawrogi eich mewnbwn.
Cwblhewch yr arolwg hwn a chael eich cynnwys mewn cystadleuaeth gyda chyfle i ennill gwerth £20 o dalebau’r stryd fawr!
Cwblhewch yr arolwg
Beth yw Cyfranogiad Preswylwyr?
Mae cyfranogiad preswylwyr yn digwydd pan fydd landlordiaid cymdeithasol yn rhannu gwybodaeth, syniadau a gwneud penderfyniadau gyda phreswylwyr gan weithio gyda nhw i gytuno ar y canlynol:
- Sut y dylid rheoli eu cartrefi a’u hamgylchedd lleol
- Pa wasanaethau a gwelliannau gwasanaeth sydd eu hangen
- Blaenoriaethau
- Sut y gallwn ni weithio gyda’n gilydd i gyflawni’r rhain