Arolwg Cynllun Corfforaethol – Cyfle i ennill taleb siopio werth £50!

Sut olwg fydd ar Tai Gogledd Cymru (TGC) 3 blynedd o rwan? Dyna beth rydyn ni eisiau eich help chi efo! Rydym yn datblygu ein Cynllun Corfforaethol 3 blynedd a fydd yn paratoi’r ffordd ar gyfer lle dylai TGC fod a sut y byddwn yn cyrraedd yno.

Beth yw Cynllun Corfforaethol? Mae cynllun corfforaethol yn nodi sut y bydd sefydliad neu fusnes yn cyflawni ei flaenoriaethau a’i amcanion. Rydym am i’n tenantiaid fod wrth galon ein Cynllun Corfforaethol, ac rydym eisiau gwybod beth sy’n bwysig i chi a beth ddylai ein blaenoriaethau fod yn eich barn chi.

Bydd pawb sy’n cwblhau’r arolwg yn cael eu cynnwys mewn raffl i ennill taleb siopio werth £50!

Cwblhewch yr arolwg yma!