Asiantaethau Tai yn cyd-weithio i gefnogi Bargen Twf Gogledd Cymru

Mae grŵp o chwe asiantaeth tai lleol wedi dod at ei gilydd mewn menter ar y cyd cyffrous i gyflymu datblygiad tai fforddiadwy newydd i gefnogi dosbarthiad Bargen Twf Gogledd Cymru.

Y Fargen Twf yw ymrwymiad rhanbarth Gogledd Cymru i gydweithio er mwyn hwyluso a chyflymu twf economaidd. Roedd £120 miliwn o gyllid wedi cael ei rhoi i’r Fargen yng Nghyllideb 2018 a gafodd ei chyhoeddi mis Hydref. Mae’r Fargen yn anelu defnyddio cyllid gan y llywodraeth i sianelu bron i £700m o arian cyhoeddus a phreifat i gyfres o brosiectau sydd wedi eu hanelu at hybu economi’r Gogledd a chreu miloedd o swyddi.

Mae Prif Weithredwyr o’r 6 Asiantaeth Tai sy’n gweithredu ar draws gogledd Cymru, gan gynnwys Pennaf, Cartrefi Conwy, Cartrefi Cymunedol Gwynedd, Grŵp Cynefin, Tai Wales & West a Tai Gogledd Cymru yn cydweithio ar sail wirfoddol gyda chydweithwyr o’r chwe Awdurdod Lleol. Mae’r grŵp yn ystyried sut y gallant weithio gyda’i gilydd yn rhagweithiol i ddatblygu mwy o dai gan ddatgloi safleoedd strategol lle mae datblygiad wedi arafu neu stopio ar draws gogledd Cymru, sydd wedi cael eu dyrannu mewn Cynllun Datblygu neu lle mae hawl cynllunio wedi cael ei roi. Bydd datblygiadau fel y rhain yn adlewyrchu’r farn leol ac yn ymateb i ddymuniadau cymunedol i weld mwy o dai fforddiadwy fel bod pobl ifanc a theuluoedd yn medru byw yn yr ardal.

Eglurodd Helena Kirk, Prif Weithredwr Tai Gogledd Cymru:

“Nid yw’r lefel yma o gydweithio arloesol rhwng y cymdeithasau rhanbarthol wedi cael ei ddatblygu na’i chyflawni yng Nghymru cyn hyn.

Mae’n gyfle cyffrous i’r grŵp o chwech asiantaeth leol wneud cyfraniad strategol i’r economi drwy’r cynlluniau i gyflymu twf tai a chyflawni ystod o anghenion tai ar draws y rhanbarth.

Trwy gydweithio, bydd yr asiantaethau yn cefnogi’r Fargen Twf i gyflymu twf tai a chreu mwy o dai fforddiadwy ar draws gogledd Cymru. Trwy gydweithio, gellir defnyddio capasiti ein sefydliadau ar y cyd i dorri rhwystrau lawr ac i ddosbarthu tai ar leoliadau heriol.” 

Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Dros Tai ac Adfywiad:

“Mae hwn yn gyfle cyffrous i greu mwy o dai fforddiadwy ar gyfer pobl yng ngogledd Cymru. Trwy gydweithio, mae’r potensial gan y fenter hon i fod yn llawer mwy na’r hyn y gallai’r asiantaethau tai ei gyflawni ar eu pennau eu hunain, ac rydym yn edrych ymlaen at gynorthwyo ei datblygiad.”

Mae cynlluniau’r grŵp ar gyfer y dyfodol yn cael eu datblygu i gyd-fynd gyda blaenoriaethau Llywodraeth Cymru a’r Awdurdod Lleol.