Byddwn yn cynnal Arolwg Bodlonrwydd
Byddwn yn cynnal arolwg yn cychwyn mis Hydref yma i gael gwybod pa mor fodlon yw ein preswylwyr gyda Tai Gogledd Cymru. Bydd hyn yn cynnwys pob maes gwasanaeth a bydd yn helpu i lunio a gwella’r gwasanaethau yr ydym yn eu cynnig.
Bydd yr arolwg hwn yn cael ei gynnal gan gwmni o’r enw ‘ARP Research’ ar ein rhan. Efallai y byddan nhw yn cysylltu â chi trwy neges destun, e-bost neu drwy’r post, yn dibynnu ar y dull a ddewiswyd gennych yn yr ymarfer Proffilio Tenantiaid diweddar.
Efallai y bydd rhai o’ch cwestiynau eu hateb yn y ddogfen Cwestiynau Cyffredin yma.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am yr arolwg cysylltwch â ni yn[email protected] neu ffoniwch 01492 572202.