Bywyd newydd i adeilad mwyaf hanesyddol y Rhyl

Mae un o adeiladau hynaf y Rhyl wedi cael bywyd newydd a darparu tai fforddiadwy o safon i bobl y Rhyl.

Yn wreiddiol yn rhan o Blas Penyddeuglawdd, mae rhannau o’r eiddo sydd wedi cael ei ailddatblygu ar Ffordd Pendyffryn, Y Rhyl yn dyddio o’r 17eg ganrif, ac mae’n debygol mai hwn yw’r adeilad hynaf sydd wedi goroesi yn y Rhyl.

Pan ddaeth yr eiddo i feddiant Tai Gogledd Cymru roedd yr adeilad rhestredig Gradd II mewn cyflwr adfeiliedig, ac fe’i rhestrwyd fel adeilad ‘mewn perygl’ gan Gyngor Sir Ddinbych.

Dywedodd Paul Diggory, Prif Weithredwr Tai Gogledd Cymru:

“Roedd Plas Penyddeuglawdd mewn man amlwg o fewn y dref ond yn raddol daeth yn ddolur llygad wrth i’w gyflwr ddirywio, gan ddenu fandaliaid ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Gall eiddo gwag gael effaith negyddol ar ganfyddiad pobl o ardal a’r gobaith yw y bydd adnewyddu ac ailfeddiannu’r eiddo yn cael effaith gadarnhaol ar y rhan yma o’r Rhyl.”

Dechreuodd y rhaglen ailddatblygu ac atgyweirio uchelgeisiol yn 2014 fel rhan o Brosiect Cartrefi Gwag Cyngor Sir Ddinbych. Bu’r contractwyr a benodwyd, sef Pure  Residential and Commercial Ltd yn gweithio’n agos gyda Swyddogion Cadwraeth y Cyngor er mwyn ailddatblygu ac atgyweirio’r adeilad rhestredig Gradd II mewn ffordd ofalus gan ddefnyddio dulliau a deunyddiau adeiladu traddodiadol.

Y canlyniad yw tri thŷ dwy ystafell wely a thri byngalo dwy ystafell wely. Mae nodweddion cymeriad gwreiddiol yr adeilad wedi cael eu cadw lle’r oedd hynny’n bosibl, ond gan ymgorffori ffitiadau effeithlon o ran ynni, a fydd o fudd i denantiaid newydd.

Ychwanegodd Paul:

“Mae’r cynllun hwn yn rhan bwysig o Strategaeth Cartrefi Gwag Cyngor Sir Ddinbych a Tai Gogledd Cymru, gyda’r bwriad o ddod â bywyd newydd i gartrefi gwag. Mae’n adeilad rhestredig pwysig yn y Rhyl, a fu unwaith mewn perygl, ac sydd bellach wedi cael ei achub yn llwyddiannus, gan greu cartrefi o safon i bobl leol.” 

Dywedodd y Cynghorydd  Hugh Irving, Aelod Cabinet Arweiniol gyda chyfrifoldeb am Gwsmeriaid a Chymunedau: 

“Mae hon yn enghraifft wych o sut mae’r Cyngor yn gweithio gyda’i bartneriaid i wella ansawdd bywyd y trigolion, yn ogystal â’r ymdrechion a wnaed i ddod ag adeiladau hanesyddol a rhestredig yn ôl i ddefnydd. Mae eiddo adfeiliedig yn gallu hagru’r dirwedd a chael effaith ddrwg ar ddelwedd weledol ardal. Rydym wrth ein bodd gyda chanlyniad y gwaith datblygu hwn.”

Trosglwyddodd Tai Gogledd Cymru y goriadau i’w cartrefi newydd i’r tenantiaid bodlon ym mis Rhagfyr ac ers hynny maent wedi ymgartrefu’n hapus yn eu cartref newydd.