Gosod Eiddo Llys Curig yn Llwyddiannus

Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod y pedwar eiddo olaf yn Llys Curig, Okenholt, wedi’u gosod yn llwyddiannus!
Mae cyfanswm o 12 teulu wedi symud i’w cartrefi newydd mewn pryd ar gyfer y Nadolig. Yr eiddo rhent canolradd hwn yw’r cyntaf o’u math yn ardal Sir y Fflint ar gyfer Tai Gogledd Cymru, gan roi cyfle unigryw i deuluoedd sicrhau lle byw cyfforddus.
Diddordeb mewn Rhent Canolradd? Edrychwch ar wefan Tai Teg am eiddo sydd ar gael a meini prawf cymhwyster: https://taiteg.org.uk/cy/

Preswylwyr cyntaf yn symud i gartrefi ecogyfeillgar fforddiadwy mewn pentref ar Ynys Môn

Mae cymdeithas dai leol wedi trosglwyddo’r goriadau i breswylwyr newydd datblygiad o 16 o dai fforddiadwy, cynaliadwy ym mhentref deniadol Gaerwen.

Mae Tai Gogledd Cymru wedi gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Ynys Môn i gyflawni cynllun gwerth £2.9m Stad Maes Rhydd sydd wedi’i gynllunio er mwyn helpu i ddiwallu’r angen dybryd am dai fforddiadwy mewn ardaloedd gwledig.

Mae’r datblygiad newydd yn cynnwys deg cartref dwy ystafell wely, dau gartref tair ystafell wely a phedwar fflat un ystafell wely sydd eu dirfawr angen.

Mae cynaliadwyedd wedi’i flaenoriaethu drwy gydol y datblygiad ac mae’r partneriaid wedi mabwysiadu dull ‘ffabrig yn gyntaf’ i greu cartrefi sydd wedi’u hinswleiddio’n dda a fydd yn cadw cynhesrwydd.

Gan nad yw Gaerwen wedi’i chysylltu â’r prif gyflenwad nwy, mae pympiau gwres ffynhonnell aer trydan carbon isel a phaneli solar Ffotofoltäig wedi’u gosod ar y to. Bydd preswylwyr sy’n symud i mewn i’w cartrefi newydd yn mwynhau biliau ynni is ac wedi cael hyfforddiant a chymorth ar sut i ddefnyddio eu pympiau.

Un o amcanion y datblygiad oedd galluogi pobl leol i fagu gwreiddiau yn yr ardal sy’n profi prinder tai fforddiadwy.

Mae wedi’i adeiladu ar safle eithriedig gwledig. Mae safleoedd o’r fath yn caniatáu i ddatblygiadau bach o dai fforddiadwy gael eu hadeiladu ar dir na fyddai’n cael ei ddefnyddio fel arfer ar gyfer eiddo preswyl.

Gan ei fod mor agos at ganol pentref Gaerwen, mae Stad Maes Rhydd yn cael ei wasanaethu’n dda gan amwynderau lleol ac mae’n agos at ffordd yr A55 sy’n cysylltu â Llangefni, Caergybi a Bangor. Gobeithir hefyd y gall preswywyr elwa o agosrwydd at gyfleoedd cyflogaeth lleol.

Dywedodd Lauren Eaton-Jones, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Masnachol Tai Gogledd Cymru; “Mae’r cartrefi hyn wedi’u hadeiladu gyda chymunedau lleol mewn golwg. Roedd ymgysylltu â thrigolion lleol yn rhan allweddol o’r broses felly rydym yn hyderus y bydd y datblygiad newydd hwn yn mynd beth o’r ffordd i ddiwallu anghenion y pentref.

“Mae’n wefr gweld pobl yn symud i mewn i’w cartrefi newydd a gwybod y byddan nhw’n elwa yn yr hydref a’r gaeaf sydd i ddod o ynni mwy fforddiadwy a chartrefi sy’n cael eu hadeiladu gydag effeithlonrwydd ynni.

“Mae gwaith partneriaeth cryf hefyd wedi bod yn allweddol i lwyddiant y cynllun hwn ac mae wedi bod yn bleser gweithio gyda Chyngor Ynys Môn i ddod â’r tai fforddiadwy hyn y mae mawr eu hangen i Gaerwen.”

Cefnogwyd cydweithwyr Tai Gogledd Cymru hefyd gan yr Hwylusydd Tai Gwledig i gynnwys pobl leol yn y broses a chadarnhau angen yn yr ardal.

Ychwanegodd deilydd portffolio Tai Cyngor Ynys Môn, y Cynghorydd Alun Mummery: “Rydym yn falch o allu gweithio mewn partneriaeth â Tai Gogledd Cymru i ddarparu mwy o gartrefi fforddiadwy newydd ar yr Ynys. Mae pobl ifanc a theuluoedd yn ei chael hi’n anodd iawn rhoi gwreiddiau yn eu cymunedau ac adeiladu bywyd yma. Mae cynlluniau bach, ynni-effeithlon a fforddiadwy fel Stad Maes Rhydd yn hanfodol i gynaliadwyedd a dyfodol ein pentrefi.”

“Mae’n bleser gweld preswylwyr yn symud i mewn i’w cartrefi newydd ac rydym yn gobeithio y byddan nhw’n ffynnu yn y gymuned newydd hon.”

Mae’r cartrefi wedi’u graddio yn ‘A’ o ran eu heffeithlonrwydd ynni, sy’n llawer uwch na gofynion Llywodraeth Cymru i gyrraedd y targed o sero net erbyn diwedd 2030. Yn ogystal, mae paratoadau wedi’u gwneud i ychwanegu pwynt gwefru trydan ar gyfer cerbydau yn y dyfodol.

Lauren Eaton-Jones yn ymuno â TGC fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol Masnachol

Mae Lauren Eaton-Jones wedi ymuno â Tai Gogledd Cymru ym Mehefin 2021 fel ein Cyfarwyddwr Cynorthwyol Masnachol.

Penodwyd Lauren ym mis Mai, ac mae ganddi dros 20 mlynedd o brofiad Datblygu. Mae ei chefndir mewn Cynllunio Tref, gan weithio mewn sawl swydd yng Nghyngor Sir y Fflint, gan ennill profiad gwerthfawr iawn ar draws ystod eang o ddatblygiadau. Yn fwy diweddar, mae Lauren wedi gweithio yn y sector preifat fel Ymgynghorydd Cynllunio i gwmni ymgynghori amlddisgyblaethol.

Daw penodiad Lauren wrth i Datblygu chwarae rhan bwysig yn ein Cynllun Corfforaethol newydd ac mae’n greiddiol i weledigaeth TCG ar gyfer y dyfodol.

Mae Lauren yn ymuno ag Uwch Dîm Arweinyddiaeth TGC, sy’n cynnwys Helena Kirk – Prif Weithredwr, Brett Sadler – Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Jayne Owen – Cyfarwyddwr Cyllid ac Adnoddau, Ruth Lanham-Wright – Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cartrefi, Allan Eveleigh – Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cymunedau, Lynne Williams – Pennaeth Pobl ac Emma Williams – Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cyllid.

Gallwch ddarganfod mwy am Lauren, ac aelodau eraill o’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yma https://www.nwha.org.uk/cy/about-us/meet-the-management-team/

Hoffem estyn croeso cynnes i Lauren i deulu TGC, ac rydym yn edrych ymlaen yn arw i weithio gyda hi.

Caniatad Cynllunio llwyddiannus i atal digartrefedd ym Mangor

Rydan ni’n cydweithio hefo Cyngor Gwynedd a Adra er mwyn ail ddatblygu’r safle segur, 137 Stryd Fawr Bangor i fod yn 12 o fflatiau gyda chefnogaeth i atal digartrefedd yng Ngwynedd. Bydd Adra yn arwain ar y datblygu, tra y bydd yr adeilad wedyn yn cael ei reoli mewn partneriaeth gan Tai Gogledd Cymru a Cyngor Gwynedd.

Mae’r cais cynllunio wedi bod yn llwyddiannus ac felly bydd gwaith yn dechrau yn gynnar y flwyddyn nesaf, 2021.

Rydan ni yn hynod falch o fod yn cydweithio hefo Adran Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd er mwyn ail ddatblygu’r safle segur a fydd wedyn yn darparu llety/cartrefi addas i gynorthwyo a chyfrannu at atal digartrefedd ym Mangor, Gwynedd.

Dywedodd Sarah Schofield, Cyfarwyddwr Cwsmeriaid a Chymunedau Adra:

“Rydym mor falch bod y datblygiad yma wedi cael caniatad cynllunio, fedra i’m disgwyl i weld pobl yn cael symud i mewn i’w cartrefi newydd pan fydd y datblygiad wedi ei gyflawni.

“Mae cynnydd o bron i 40% yng nghanran digartrefedd yng Ngwynedd dros y 5 mlynedd diwethaf, a gyda chynnydd mewn achosion Credyd Cynhwysol eleni a cholli gwaith o ganlyniad i’r pandemig hefyd, mae yna alw am lety a gwasanaeth fel hyn yn fwy nag erioed.

“Rydym mor falch o fod yn cydweithio hefo Cyngor Gwynedd a Tai Gogledd Cymru ac yn falch ein bod yn cymryd camau i gyfarch y mater hwn ac i helpu pobl fregus, sydd mewn angen tai yng Ngwynedd.”

Dywedodd y Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Tai Cyngor Gwynedd:

“Mae to dros eich pen yn rhywbeth mae’r rhan fwyaf ohonom yn ei gymryd yn ganiataol. Ond yn anffodus, mae amgylchiadau cymdeithasol yn golygu fod yr hawl dynol yma yn rywbeth sydd y tu hwnt i afael rhai pobl leol. Mae hynny’n annheg ac rydym yn benderfynol o wneud iawn am hynny.

“Rydym felly yn falch iawn o weld y prosiect pwysig yma yn bwrw ymlaen ac yn edrych ymlaen – mae’n rhan o Gynllun Gweithredu Tai y Cyngor ar gyfer y blynyddoedd nesaf lle byddwn yn cydweithio efo partneriaid i sicrhau fod gan bobl Gwynedd fynediad at dai addas.

“Bydd y prosiect yma yn cynnig cam cyntaf pwysig i bobl tuag at annibyniaeth a chartref hir-dymor wrth adeiladu bywydau annibynnol. Braf hefyd i weld y bydd bywyd newydd yn cael ei gynnig i adeilad sylweddol sydd wedi bod yn segur ers peth amser yn y rhan yma o Fangor.”

Dywedodd Brett Sadler, Cyfarwyddwr Gweithrediadau yn Tai Gogledd Cymru:

“Rydym yn croesawu’r newyddion da bod caniatâd cynllunio wedi’i roi ar gyfer y datblygiad hwn. Rydym yn falch y byddwn, trwy weithio mewn partneriaeth â Chyngor Gwynedd ac Adra, yn cefnogi digartrefedd ym Mangor, gan ategu’r gwaith y mae ein Tîm Allgymorth ac Ailsefydlu eisoes yn ei wneud yn yr ardal.”

“Fodd bynnag, rydym yn deall nad yw darparu cartref yn ddigonol, a byddwn hefyd yn cynnig cefnogaeth uniongyrchol gan ein staff ymroddedig a gwybodus, i’w galluogi i lwyddo i fyw’n annibynnol.”

Mae’r holl bartneriaid wedi ymrwymo i gyflawni’r prosiect yma a byddwn yn gweithio hefo gwasanaethau arbenigol a sefydliadau gwirfoddol sy’n gweithredu ym Mangor.

Diwrnod agored tai Bae Penrhyn

A ydych angen tŷ fforddiadwy newydd?

Mae cyfle i chi fynegi eich diddordeb am dy newydd fforddiadwy mewn diwrnod agored a gynhelir yn:

Neuadd Dewi Sant, Bae Penrhyn ar

Ddydd Gwener 28ain o Chwefror 2020 rhwng 3.00pm a 6.30pm

Lawrlwythwch y poster

Datblygiad Caergybi yn symud ymlaen

Mae’r gwaith wedi symud ymlaen yn dda iawn yn ein datblygiad Gerddi Canada yng Nghaergybi, a gobeithiwn y bydd 15 o’r 25 o dai a fflatiau yn cael eu cwblhau a’u trosglwyddo ym mis Mai 2020.

Yn ddiweddar mi wnaethon ni ymweld â’r safle gydag un o’n cyllidwyr, sef y Principality. Roedd y cynnydd ar y safle ers ein hymweliad diwethaf yn anhygoel ac rydym rŵan yn gallu gweld y diwedd yn dod i’r golwg!

Oes gennych chi ddiddordeb mewn byw yn un o’r tai neu’r fflatiau hyn? Cysylltwch â Chyngor Ynys Môn ar:

  • Gwasanaethau Tai, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni, Ynys Môn LL77 7TW
  • 01248 750057

Cynllun tai £1.5m newydd Bae Colwyn yn cael ei agor yn swyddogol

Agorwyd datblygiad tai fforddiadwy newydd Nant Eirias ym Mae Colwyn yn swyddogol gan Hannah Blythyn AC, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol mewn digwyddiad ffurfiol ar ddydd Iau, y 3ydd o Hydref 2019.

Mae cyfanswm o 12 fflat un a dwy ystafell wely wedi’u hadeiladu gan Tai Gogledd Cymru fel rhan o’r prosiect £1.5 miliwn.

Dywedodd Helena Kirk, Prif Weithredwr, Tai Gogledd Cymru:

“Rydym yn hynod falch ein bod wedi creu 12 cartref rhent fforddiadwy newydd ym Mae Colwyn. Mae hyn yn ganlyniad i weithio mewn partneriaeth ardderchog gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Trwy weithio gyda’n gilydd, rydym wedi gwella rhagolygon tai teuluoedd lleol ifanc ac wedi helpu i fynd i’r afael â’r mater ehangach o brinder tai.

Y cartrefi newydd oedd datblygiad rhent canolraddol cyntaf Tai Gogledd Cymru; mae hyn yn golygu eu bod wedi’u hanelu at bobl mewn gwaith, neu sy’n gallu talu’r rhent heb gymorth ariannol ond yn cael eu gosod ar rent is na’r rhent a godir am gartrefi tebyg yn yr ardal gan landlordiaid preifat. Roedd y gosodiadau’n cael eu rheoli gan Tai Teg, Cofrestr Cartrefi Fforddiadwy Conwy.

Mae’r datblygiad newydd yn rhan o Raglen Adfywio Bywyd y Bae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy; a ddatblygwyd gyda chefnogaeth grant Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol:

“Rydym eisiau cefnogi ein trefi i sicrhau eu bod yn lleoedd deniadol, bywiog i bobl fyw, gweithio ac ymweld â nhw – ac roeddwn i’n falch o weld y datblygiad gorffenedig a gobeithio y bydd y preswylwyr yn hapus yn eu cartrefi newydd.

Dywedodd y Cynghorydd Charlie McCoubrey, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am Dai i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy:

“Roedd y safle hwn wedi bod yn ddolur llygad ers blynyddoedd ac, o ystyried ei leoliad, roedd yn lle delfrydol ar gyfer eiddo preswyl. Felly, rwy’n falch iawn o weld y datblygiad hwn o dai fforddiadwy o ansawdd da yn dwyn ffrwyth. Mae tai fforddiadwy i bobl leol yn flaenoriaeth allweddol i’r Cyngor ac mae’r prosiect hwn yn enghraifft wych o’r hyn y gellir ei gyflawni pan fyddwn yn gweithio gyda’n gilydd. Rwy’n gobeithio bod y tenantiaid yn ymgartrefu’n dda a hoffwn ddymuno’r gorau iddynt yn eu cartrefi newydd.”

Nid y preswylwyr yn unig sydd wedi elwa o’r datblygiad newydd hwn, bu llawer o fuddion cymunedol hefyd, gan gynnwys hyfforddiant lleol a chyfleoedd cyflogaeth.

Mae’r cartrefi newydd yn effeithlon o ran costau rhedeg ynni – ystyriaeth allweddol o ariannu’r cynllun trwy Grant Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid a Grant Tai Cymdeithasol Cyngor Conwy a Llywodraeth Cymru.

Preswylwyr yn symud i ddatblygiad Nant Eirias

Yn ddiweddar mae Tai Gogledd Cymru wedi cwblhau datblygiad tai newydd sbon ym Mae Colwyn. Mae Nant Eirias yn cynnig deuddeg o gartrefi newydd sbon i’r ardal fel rhan o Raglen Adfywio Bywyd y Bae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Mae cyfanswm o 12 o fflatiau un a dwy ystafell wely wedi’u hadeiladu fel rhan o’r prosiect £2.4 miliwn – gan ddisodli’r eiddo adfeiliedig a oedd wedi meddiannu’r safle am gyhyd.

Dywedodd Brett Sadler, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Dros Dro:

“Rydym yn hynod falch o’r ffordd y mae’r datblygiad hwn wedi mynd rhagddo. Mae’r fflatiau mewn lleoliad allweddol ar y ffordd i ganol tref Bae Colwyn o Barc Eirias, o fewn pellter cerdded i’r dref.

“Nid yn unig maen nhw’n edrych yn dda, maen nhw hefyd yn hynod effeithlon o ran costau rhedeg ynni – ystyriaeth allweddol o gyllid y cynllun drwy Lywodraeth Cymru a Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid a Thai Cymdeithasol Cyngor Conwy.”

Mae’r datblygiad yn ganlyniad i waith partneriaeth agos; mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Llywodraeth Cymru wedi bod yn allweddol o ran cyllid a chefnogaeth.

Esboniodd Helena Kirk, Prif Weithredwr Tai Gogledd Cymru:

“Rydym yn ddiolchgar i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy am eu cefnogaeth o ran cyllid yn ogystal â’r amser a dreuliwyd gan swyddogion yn gweithio efo ni i ddod â’r prosiect i’r pwynt hwn. Mae cyllid Llywodraeth Cymru hefyd wedi bod yn allweddol. Heb yr arian hwn ni fyddai’r datblygiad wedi digwydd ”

Y datblygiad hwn fydd y cyntaf ar gyfer Tai Gogledd Cymru gan eu bod ar gael ar rent canolradd sy’n golygu eu bod wedi’u hanelu at bobl mewn gwaith, neu sy’n gallu talu’r rhent heb gymorth ariannol ond gyda’r taliadau rhent yn llai na’r rhent a godir am gartref tebyg yn yr ardal gan landlord preifat. Rheolwyd gosodiadau gan Tai Teg, Cofrestr Cartrefi Fforddiadwy Conwy.

Mae preswylwyr wedi derbyn eu goriadau ac wedi symud i mewn; gan dderbyn rhodd o hamper bychan wedi’i lenwi â hanfodion i’w helpu i setlo yn eu cartrefi newydd.

Dathlu gosod y fricsen gyntaf mewn datblygiad tai newydd yng Nghaergybi

Daeth cydweithwyr a phartneriaid Tai Gogledd Cymru ynghyd ar ddydd Mercher 3 Ebrill i ddathlu dechrau datblygiad newydd yng Nghaergybi, Gerddi Canada.

Bydd Gerddi Canada, mewn partneriaeth â Chyngor Ynys Môn, yn creu 25 o gartrefi newydd yn yr ardal: deg fflat un ystafell wely a phymtheg o dai dwy ystafell wely. Mae’r safle yn agos at siopau manwerthu, archfarchnadoedd, lle chwarae, ysgolion, trafnidiaeth leol ac amwynderau eraill.

Dywedodd Helena Kirk, Prif Weithredwr Tai Gogledd Cymru:

“Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda Chyngor Ynys Môn i ddiwallu anghenion tai lleol y sir. Bydd Gerddi Canada yn darparu 25 o gartrefi newydd o ansawdd yng Nghaergybi, cymysgedd da o eiddo a fydd yn creu ysbryd cymunedol.”

Bydd tîm Datblygu mewnol Tai Gogledd Cymru yn rheoli’r prosiect, gan anelu at drosglwyddo’r goriadau i’r tai ym mis Hydref 2020, gan gwblhau’n llawn ym mis Rhagfyr 2020.

Lansio Strategaeth Cynaliadwyedd Newydd

Mae cynaliadwyedd wedi bod yn bwysig i Tai Gogledd Cymru erioed; i ni mae hyn yn golygu bod yn gwbl ymwybodol o’r ffordd y mae ein gweithredoedd yn effeithio ar ein cymunedau a’r byd ehangach, yn awr ac yn y dyfodol. Gyda’r wybodaeth hon, gallwn chwarae ein rhan i amddiffyn a gwella lles hirdymor y bobl a’r lleoedd o’n cwmpas.

Rydym bellach wedi ffurfioli ein dull gweithredu ac wedi datblygu Strategaeth Cynaliadwyedd newydd.

Mae’r strategaeth hon wedi cael ei datblygu gan ein bod am wella’r ffordd rydym yn rheoli ein hymagwedd at gynaliadwyedd, er mwyn sicrhau ein bod yn datblygu ein busnes mewn ffordd gynaliadwy; ac i allu dangos yr effaith wirioneddol rydym yn ei gael ar ein tenantiaid, ein cymunedau a’r byd ehangach.

Eglurodd Richard Snaith, Cydlynydd Cynaliadwyedd:

“Mae pawb yn Tai Gogledd Cymru yn ymwneud â’n helpu i wneud y newid i ddyfodol gwirioneddol gynaliadwy. Byddem wrth ein bodd i glywed gan ein tenantiaid ac eraill yn y gymuned ynghylch sut y gallwn gydweithio i wella a gofalu am y lleoedd lle rydym i gyd yn byw.”

Gallwch ddarllen ein Strategaeth Cynaliadwyedd newydd a chael gwybod am y gwaith rydym wedi’i wneud eisoes drwy ymweld â’n gwefan yma.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein Strategaeth Cynaliadwyedd, neu os oes gennych unrhyw syniadau neu os hoffech gymryd rhan, cysylltwch â’n Cydlynydd Cynaliadwyedd Richard Snaith ar [email protected]  neu 01492 563,211.