Caniatad Cynllunio llwyddiannus i atal digartrefedd ym Mangor

Rydan ni’n cydweithio hefo Cyngor Gwynedd a Adra er mwyn ail ddatblygu’r safle segur, 137 Stryd Fawr Bangor i fod yn 12 o fflatiau gyda chefnogaeth i atal digartrefedd yng Ngwynedd. Bydd Adra yn arwain ar y datblygu, tra y bydd yr adeilad wedyn yn cael ei reoli mewn partneriaeth gan Tai Gogledd Cymru a Cyngor Gwynedd.

Mae’r cais cynllunio wedi bod yn llwyddiannus ac felly bydd gwaith yn dechrau yn gynnar y flwyddyn nesaf, 2021.

Rydan ni yn hynod falch o fod yn cydweithio hefo Adran Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd er mwyn ail ddatblygu’r safle segur a fydd wedyn yn darparu llety/cartrefi addas i gynorthwyo a chyfrannu at atal digartrefedd ym Mangor, Gwynedd.

Dywedodd Sarah Schofield, Cyfarwyddwr Cwsmeriaid a Chymunedau Adra:

“Rydym mor falch bod y datblygiad yma wedi cael caniatad cynllunio, fedra i’m disgwyl i weld pobl yn cael symud i mewn i’w cartrefi newydd pan fydd y datblygiad wedi ei gyflawni.

“Mae cynnydd o bron i 40% yng nghanran digartrefedd yng Ngwynedd dros y 5 mlynedd diwethaf, a gyda chynnydd mewn achosion Credyd Cynhwysol eleni a cholli gwaith o ganlyniad i’r pandemig hefyd, mae yna alw am lety a gwasanaeth fel hyn yn fwy nag erioed.

“Rydym mor falch o fod yn cydweithio hefo Cyngor Gwynedd a Tai Gogledd Cymru ac yn falch ein bod yn cymryd camau i gyfarch y mater hwn ac i helpu pobl fregus, sydd mewn angen tai yng Ngwynedd.”

Dywedodd y Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Tai Cyngor Gwynedd:

“Mae to dros eich pen yn rhywbeth mae’r rhan fwyaf ohonom yn ei gymryd yn ganiataol. Ond yn anffodus, mae amgylchiadau cymdeithasol yn golygu fod yr hawl dynol yma yn rywbeth sydd y tu hwnt i afael rhai pobl leol. Mae hynny’n annheg ac rydym yn benderfynol o wneud iawn am hynny.

“Rydym felly yn falch iawn o weld y prosiect pwysig yma yn bwrw ymlaen ac yn edrych ymlaen – mae’n rhan o Gynllun Gweithredu Tai y Cyngor ar gyfer y blynyddoedd nesaf lle byddwn yn cydweithio efo partneriaid i sicrhau fod gan bobl Gwynedd fynediad at dai addas.

“Bydd y prosiect yma yn cynnig cam cyntaf pwysig i bobl tuag at annibyniaeth a chartref hir-dymor wrth adeiladu bywydau annibynnol. Braf hefyd i weld y bydd bywyd newydd yn cael ei gynnig i adeilad sylweddol sydd wedi bod yn segur ers peth amser yn y rhan yma o Fangor.”

Dywedodd Brett Sadler, Cyfarwyddwr Gweithrediadau yn Tai Gogledd Cymru:

“Rydym yn croesawu’r newyddion da bod caniatâd cynllunio wedi’i roi ar gyfer y datblygiad hwn. Rydym yn falch y byddwn, trwy weithio mewn partneriaeth â Chyngor Gwynedd ac Adra, yn cefnogi digartrefedd ym Mangor, gan ategu’r gwaith y mae ein Tîm Allgymorth ac Ailsefydlu eisoes yn ei wneud yn yr ardal.”

“Fodd bynnag, rydym yn deall nad yw darparu cartref yn ddigonol, a byddwn hefyd yn cynnig cefnogaeth uniongyrchol gan ein staff ymroddedig a gwybodus, i’w galluogi i lwyddo i fyw’n annibynnol.”

Mae’r holl bartneriaid wedi ymrwymo i gyflawni’r prosiect yma a byddwn yn gweithio hefo gwasanaethau arbenigol a sefydliadau gwirfoddol sy’n gweithredu ym Mangor.