Preswylwyr cyntaf yn symud i gartrefi ecogyfeillgar fforddiadwy mewn pentref ar Ynys Môn

Mae cymdeithas dai leol wedi trosglwyddo’r goriadau i breswylwyr newydd datblygiad o 16 o dai fforddiadwy, cynaliadwy ym mhentref deniadol Gaerwen.

Mae Tai Gogledd Cymru wedi gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Ynys Môn i gyflawni cynllun gwerth £2.9m Stad Maes Rhydd sydd wedi’i gynllunio er mwyn helpu i ddiwallu’r angen dybryd am dai fforddiadwy mewn ardaloedd gwledig.

Mae’r datblygiad newydd yn cynnwys deg cartref dwy ystafell wely, dau gartref tair ystafell wely a phedwar fflat un ystafell wely sydd eu dirfawr angen.

Mae cynaliadwyedd wedi’i flaenoriaethu drwy gydol y datblygiad ac mae’r partneriaid wedi mabwysiadu dull ‘ffabrig yn gyntaf’ i greu cartrefi sydd wedi’u hinswleiddio’n dda a fydd yn cadw cynhesrwydd.

Gan nad yw Gaerwen wedi’i chysylltu â’r prif gyflenwad nwy, mae pympiau gwres ffynhonnell aer trydan carbon isel a phaneli solar Ffotofoltäig wedi’u gosod ar y to. Bydd preswylwyr sy’n symud i mewn i’w cartrefi newydd yn mwynhau biliau ynni is ac wedi cael hyfforddiant a chymorth ar sut i ddefnyddio eu pympiau.

Un o amcanion y datblygiad oedd galluogi pobl leol i fagu gwreiddiau yn yr ardal sy’n profi prinder tai fforddiadwy.

Mae wedi’i adeiladu ar safle eithriedig gwledig. Mae safleoedd o’r fath yn caniatáu i ddatblygiadau bach o dai fforddiadwy gael eu hadeiladu ar dir na fyddai’n cael ei ddefnyddio fel arfer ar gyfer eiddo preswyl.

Gan ei fod mor agos at ganol pentref Gaerwen, mae Stad Maes Rhydd yn cael ei wasanaethu’n dda gan amwynderau lleol ac mae’n agos at ffordd yr A55 sy’n cysylltu â Llangefni, Caergybi a Bangor. Gobeithir hefyd y gall preswywyr elwa o agosrwydd at gyfleoedd cyflogaeth lleol.

Dywedodd Lauren Eaton-Jones, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Masnachol Tai Gogledd Cymru; “Mae’r cartrefi hyn wedi’u hadeiladu gyda chymunedau lleol mewn golwg. Roedd ymgysylltu â thrigolion lleol yn rhan allweddol o’r broses felly rydym yn hyderus y bydd y datblygiad newydd hwn yn mynd beth o’r ffordd i ddiwallu anghenion y pentref.

“Mae’n wefr gweld pobl yn symud i mewn i’w cartrefi newydd a gwybod y byddan nhw’n elwa yn yr hydref a’r gaeaf sydd i ddod o ynni mwy fforddiadwy a chartrefi sy’n cael eu hadeiladu gydag effeithlonrwydd ynni.

“Mae gwaith partneriaeth cryf hefyd wedi bod yn allweddol i lwyddiant y cynllun hwn ac mae wedi bod yn bleser gweithio gyda Chyngor Ynys Môn i ddod â’r tai fforddiadwy hyn y mae mawr eu hangen i Gaerwen.”

Cefnogwyd cydweithwyr Tai Gogledd Cymru hefyd gan yr Hwylusydd Tai Gwledig i gynnwys pobl leol yn y broses a chadarnhau angen yn yr ardal.

Ychwanegodd deilydd portffolio Tai Cyngor Ynys Môn, y Cynghorydd Alun Mummery: “Rydym yn falch o allu gweithio mewn partneriaeth â Tai Gogledd Cymru i ddarparu mwy o gartrefi fforddiadwy newydd ar yr Ynys. Mae pobl ifanc a theuluoedd yn ei chael hi’n anodd iawn rhoi gwreiddiau yn eu cymunedau ac adeiladu bywyd yma. Mae cynlluniau bach, ynni-effeithlon a fforddiadwy fel Stad Maes Rhydd yn hanfodol i gynaliadwyedd a dyfodol ein pentrefi.”

“Mae’n bleser gweld preswylwyr yn symud i mewn i’w cartrefi newydd ac rydym yn gobeithio y byddan nhw’n ffynnu yn y gymuned newydd hon.”

Mae’r cartrefi wedi’u graddio yn ‘A’ o ran eu heffeithlonrwydd ynni, sy’n llawer uwch na gofynion Llywodraeth Cymru i gyrraedd y targed o sero net erbyn diwedd 2030. Yn ogystal, mae paratoadau wedi’u gwneud i ychwanegu pwynt gwefru trydan ar gyfer cerbydau yn y dyfodol.