Cartrefi newydd yn cefnogi adfywio Caergybi
Mae Garreg Domas, datblygiad tai newydd gan Tai Gogledd Cymru wedi cael ei gwblhau yn gynnar gan ddarparu 9 o gartrefi newydd mawr eu hangen yng Nghaergybi.
Mae’r datblygiad fflatiau wedi ei leoli yng nghanol tref Caergybi ar hen safle cwt sgowtiaid a gafodd ei ddymchwel. Mae’r datblygiad wedi creu 9 o fflatiau un ystafell wely dau berson.
Derbyniodd y preswylwyr eiddgar eu goriadau a symud i mewn i’w cartref newydd ar ddechrau mis Mawrth.
Dywedodd Helena Kirk, Prif Weithredwr Tai Gogledd Cymru:
“Rydym yn hynod o falch efo Garreg Domas, sy’n ddatblygiad ar y cyd gyda Chyngor Sir Ynys Môn. Roedd y datblygiad i fod i gael ei gwblhau ar 30 Mehefin 2017, felly fe’i cwblhawyd yn gynt na’r disgwyl.”
“Mae’r datblygiad wedi elwa o gyllid grant Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid, gan gefnogi adfywio Caergybi ac adeiladu mwy o gartrefi newydd ar gyfer yr ardal.”
Dywedodd Pennaeth Gwasanaethau Tai yng Nghyngor Sir Ynys Môn, Shan Williams:
“Roeddem yn falch o weithio mewn partneriaeth â Tai Gogledd Cymru ar y prosiect hwn i ddarparu tai cymdeithasol newydd ar gyfer Ynys Môn a gwneud defnydd o safle tir llwyd gwag yn agos at ganol tref Caergybi. Rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am ddarparu cronfeydd cyfalaf Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid er mwyn helpu i wneud y cynllun yn bosibl.”
“Hyd yma mae Rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid Caergybi ar gyfer adfywio a chartrefi wedi cefnogi adeiladu 40 o gartrefi rhent cymdeithasol newydd trwy weithio mewn partneriaeth â chymdeithasau tai lleol a’r Is-adran Tai a Lleoedd Llywodraeth Cymru.”