Cwblhewch arolwg am gyfle i ennill

Sut bydd Tai Gogledd Cymru (TGC) yn edrych o fewn 3 blynedd? Rydym am i chi ein helpu i ateb y cwestiwn hwn. Rydym yn datblygu ein Cynllun Corfforaethol 3 blynedd a fydd yn paratoi’r ffordd a gweld ble y dylai TGC fod a sut y byddwn yn cyrraedd yno.

Rydym am i’n tenantiaid fod yn ganolog i’n Cynllun Busnes ac rydym eisiau gwybod beth sy’n bwysig i chi a beth yn eich barn chi ddylai fod yn flaenoriaeth i ni.

Cyfle i ennill tocyn anrheg o’ch dewis

Byddwn yn cynnwys enw pawb sy’n cwblhau’r arolwg mewn raffl i ennill Tocyn Anrheg gwerth £50 oddi wrth naill ai Tesco, Marks & Spencer, Debenhams, Argos, Cineworld neu Pontio.

Cwblhewch yr arolwg

Os well ganddoch gwbwlhau fersiwn papur lawr lwythwch yr arolwg yma a’i ddychwelyd i Iwan Evans, North Wales Housing, Plas Blodwel. Llandudno Junction. Conwy. LL31 9HL.