Arolwg Bodlonrwydd Tenantiaid

Byddwn yn cynnal arolwg rhwng Hydref a Rhagfyr i gael gwybod pa mor fodlon yw ein preswylwyr gyda Tai Gogledd Cymru. Bydd hyn yn cynnwys pob maes gwasanaeth a bydd yn helpu i lunio a gwella’r gwasanaethau yr ydym yn eu cynnig.

Bydd yr arolwg hwn yn cael ei gynnal gan gwmni o’r enw ‘ARP Research’ ar ein rhan. Efallai y byddan nhw yn cysylltu â chi trwy neges destun, e-bost neu drwy’r post, yn dibynnu ar y dull a ddewiswyd gennych yn yr ymarfer Proffilio Tenantiaid diweddar.

Cwblhewch yr aroleg heddiw a chael cyfle i ennill Talebau Stryd Fawr:

Gwobr 1af – £100

2il wobr – £50

3ydd a 4ydd wobr – £25

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am yr arolwg cysylltwch â ni yn[email protected] neu ffoniwch 01492 572202.

Cymerwch ran yn ein Grŵp Ffocws tenantatiaid ar gydraddoldeb ac amrywiaeth

Bydd y Grŵp Ffocws yn digwydd ar 18 Awst 2022 ar Zoom

Bydd pawb sy’n mynychu’r grŵp ffocws yn cael eu cynnwys mewn raffl i ennill talebau stryd fawr gwerth £50!!

Mewn partneriaeth â Tai Pawb, mae Tai Gogledd Cymru yn gweithio tuag at ennill gwobr Ansawdd mewn Cydraddoldeb ac Amrywiaeth (QED). Mae Tai Pawb yn fudiad aelodaeth sy’n hyrwyddo cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol ym maes tai yng Nghymru. Mae’n credu bod gan bawb yr hawl i gael mynediad at dai a chartrefi o ansawdd da mewn cymunedau cydlynol a diogel. Ei amcan yw ceisio lleihau rhagfarn, anfantais a thlodi.

Os hoffech chi gymryd rhan neu ddysgu mwy am y grŵp ffocws, cysylltwch ag Iwan ar [email protected] neu 01492 563232.

Cyfle ennil taleb siopio werth £50!

Yn ddiweddar, rydym wedi profi pa mor fforddiadwy yw’r rhenti a’r taliadau gwasanaeth rydym yn godi ac rydym yn hynod o falch o gyhoeddi bod pob un wedi pasio y meini prawf fforddiadwy.

Rydym wedi defnyddio dull a ddatblygiwyd gan y Joseph Rowntree Foundation i wneud y Gwaith hwn – dull hynod o boblogaidd sy’n dweud bod rhent yn fforddiadwy os nad yw yn fwy na 28% o incwm y tenant neu 33% o’r incwm os yw’r tenant hefyd yn talu am dal gwasanaeth (service charge).

Yn naturiol, nid oes ganddom wybodaeth am incwm pob un o’n tenantiaid, felly rydym wedi defnyddio y ‘real living wage’ i gyfrifo hyn gan ein bod yn credu bydd y mwyafrif o’n tenantiaid sy’n gweithio yn ennill hyn o ganlyniad i Lywodraeth Cymru geisio hybu cyflogwyr i dalu’r lefel hwn.

Rydym yn hynod o falch o gael rhannu’r newyddion yma gyda chi, ond rydym angen gwybod sut mae hyn yn ei deimlo i chi? Ydi hyn yn beth fyddech chi yn ei feddwl? Ydych chi yn cytuno efo hyn? Rydym yn awyddus iawn i gael eich barn ar hyn ac ar y gwasanaethau rydych yn eu derbyn gan Tai Gogledd Cymru trwy cwblhau yr arolwg isod. Bydd tenantiaid Tai Gogledd Cymru sy’n cwblhau’r arolwg yn cystadlu yn y raffl fawr!

Link i’r arolwg https://forms.office.com/Pages/ResponsePage.aspx?id=MRgpeqjnDEOXGXgOk_MvUr-n_XqykMpOrer-MTBdv6pUQkoyWlJMWVYxNjRZM0hHSVE3WkNZUTlISi4u

Os ydych am siarad â rhywun yn Tai Gogledd Cymru am yr arolwg hwn, cysylltwch ag Iwan Evans ar 01492 563232 neu [email protected]

Strategaeth Cyfranogi Tenantiaid newydd ar gael nawr

Mae’n bwysig i ni fod tenantiaid wrth galon TGC, a’ch bod chi’n rhan o’r penderfyniadau sy’n effeithio arnoch chi.

Rydym wedi llunio’r Strategaeth Cyfranogi Tenantiaid newydd hon, sy’n dweud wrthych beth yr ydym yn bwriadu ei wneud i gael tenantiaid i chwarae mwy o ran.

Darllenwch y Strategaeth yma www.nwha.org.uk/cy/strategaeth-cyfranogiad-tenantiaid

Diolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad a helpodd i lunio’r Strategaeth hon.

Rydym eich angen i fod yn bencampwr llais y tenantiaid

Mae gennym gyfle cyffrous i ymuno â’n Panel Tenantiaid a Chymunedau!  Gallech fod yn denant presennol i Tai Gogledd Cymru, neu’n aelod o’n Cymuned.

Budd

  • Cael dylanwad go iawn ar y gwasanaethau rydym yn eu darparu i denantiaid
  • Symud newid positif ymlaen
  • Dysgu sgiliau trosglwyddadwy newydd
  • Cyfarfod pobl newydd

“Mae wedi bod yn llawer o hwyl, ac yn ddiddorol iawn, i mi fod yn rhan o wneud penderfyniadau, a chael dylanwad dros lawer o bethau sy’n effeithio arnaf i’n uniongyrchol, yn y cartref lle rwy’n byw.

Peidiwch oedi i gymryd rhan, mae o werth chweil go iawn!”

Aelod sy’n denant – Carol 

Byddwn yn eich cefnogi

Ddim yn siŵr a oes gennych chi’r sgiliau iawn? Peidiwch â phoeni, byddwn yn eich cefnogi! Byddwch yn derbyn hyfforddiant a mentora i’ch helpu i dyfu eich set sgiliau.

Ddim yn siŵr a yw hyn ar eich cyfer chi?

Os nad ydych yn siŵr bod hyn ar eich cyfer chi, ond yn dal i fod eisiau dweud eich dweud, mae gennym gyfleoedd eraill i chi leisio eich barn.

I wybod mwy

Os hoffech wybod mwy am y rôl, neu am arwyddo i ymuno, cysylltwch ag Iwan ar [email protected] neu 01492 563232.

Arolwg Cyfranogiad Tenantiaid – Cyfle I tenantiaid TGC ennill cerdyn rhodd Love2Shop werth £20!

Byddwn yn datblygu Strategaeth Cyfranogiad Tenantiaid newydd a byddem yn gwerthfawrogi mewnbwn gan ein tenantiaid.

Mae cyfranogiad tenantiaid yn digwydd pan fydd landlordiaid cymdeithasol yn rhannu gwybodaeth, syniadau a gwneud penderfyniadau gyda thenantiaid gan weithio gyda nhw i gytuno ar pethau fel sut y dylid rheoli eu cartrefi a’r amgylchedd lleol, pa wasanaethau a gwelliannau gwasanaeth sydd eu hangen, blaenoriaethau a sut y gallwn weithio gyda’n gilydd i gyflawni’r rhain.

Bydd y strategaeth yn dweud wrthych sut y byddwn yn sicrhau cyfranogiad da gan denantiaid, sut rydyn ni’n mynd i ymgynghori â chi a defnyddio eich barn, a sut rydyn ni’n mynd i weithio gyda chi er mwyn i chi allu dylanwadu ar yr hyn rydyn ni’n ei wneud a’n dwyn i gyfrif.

Gallwch gwbwlhau yr arolwg gan ddefnyddio y linc isod a cael cyfle I tenantiaid TGC ennill cerdyn rhodd Love2Shop werth £20. Mae’r arolwg ar agor I tenantiaid TGC yn unig.

https://forms.office.com/Pages/ResponsePage.aspx?id=MRgpeqjnDEOXGXgOk_MvUr-n_XqykMpOrer-MTBdv6pUQkoyWlJMWVYxNjRZM0hHSVE3WkNZUTlISi4u&fbclid=IwAR3a80UvIVApA5VAGZxrj1w7OGHzntKo9U_7v3WdTL1K8idlBeF3JNxxihA

Os ydych am siarad â rhywun yn Tai Gogledd Cymru am yr arolwg hwn, cysylltwch ag Iwan Evans ar 01492 563232 neu [email protected]

Dweud eich dweud am y cartrefi fforddiadwy newydd yn Plas Penrhyn

Mae Tai Gogledd Cymru ac Adra yn gweithio mewn partneriaeth am y tro cyntaf ar ddatblygiad arfaethedig Plas Penrhyn ym Mae Penrhyn. Mae cynllun Plas Penrhyn yn cynnwys wyth tŷ 3 ystafell wely ac wyth tŷ 2 ystafell wely, pedwar byngalo 2 ystafell wely ac un byngalo 2 ystafell wely gyda mynediad i gadeiriau olwyn, pob un â pharcio dynodedig.

Hoffem eich gwahodd i weminar rithwir gydag Adra a Tai Gogledd Cymru, i weld y cynlluniau a thrafod y cynigion.

Dyddiad: Dydd Iau 28 Ionawr 2021 (7.30yp – 8.30yp)

Sut i gofrestru ar gyfer y weminar

Gallwch gofrestru ar gyfer y weminar gan clicio ar y linc yma:

https://www.eventbrite.co.uk/e/copy-of-gweminar-tai-fforddiadwy-plas-penrhyn-affordable-housing-webinar-tickets-136719651157

Os hoffech gyflwyno unrhyw gwestiynau am y cynllun cyn y weminar rhithwir, e-bostiwch eich cwestiynau at [email protected].

Helpu pobl i gael cartref sy’n diwallu eu hanghenion

Mae Tyfu Tai Cymru, rhan o Sefydliad Tai Siartredig yng Nghymru, yn cyflawni ymchwil i ddeall sut y gallai fod modd i ni helpu tenantiaid sydd efallai eisiau symud nawr neu rywbryd yn y dyfodol, yn well.

Gallwch gyflenwi’r arolwg yma https://analytics-eu.clickdimensions.com/cihorg-autsn/pages/qql6ebfeeuoewaisd7quw.html?PageId=e8ffa2425f40eb11a8130022483ed0bb

Bydd eich ymateb i’r arolwg hwn yn gwbl ddienw. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon, cysylltwch â [email protected] neu [email protected]

Dweud eich dweud am eich rhent

Hoffech chi roi cynnig ar gystadleuaeth tynnu enwau o het am gyfle i ennill cerdyn rhodd Love2Shop gwerth £20!?

Os ydych chi’n denant gyda Tai Gogledd Cymru, byddem yn ddiolchgar pe gallech gwblhau’r arolwg isod. Byddwch yn cael eich cynnwys mewn cystadleuaeth tynnu enwau o het i gael cyfle i ennill taleb anrheg Love2shop gwerth £20.

Y llynedd rhoddodd Llywodraeth Cymru’r gallu i Gymdeithasau Tai godi rhenti hyd at 1% + CPI (chwyddiant yn seiliedig ar brisiau mis Medi) am y 5 mlynedd nesaf. Pe bydden ni’n defnyddio’r gyfradd uchaf hon byddai’r cynnydd rhent o Ebrill 2021 yn 1.5%.

Mae eleni wedi bod yn flwyddyn heb ei thebyg ac rydym yn deall yr effaith y mae’r pandemig wedi’i chael ar ein bywydau a’n harian ni i gyd. Rydym yn gwerthfawrogi pa mor anodd y bu’r flwyddyn hon ac mae’r canlyniadau’n debygol o barhau i mewn i’r Flwyddyn Newydd, felly rydym yn cynnig rhewi rhent rhwng Ebrill 2021 a Mawrth 2022.

Mae’n rhaid i ni gynnal ymgynghoriad ar gyfer cynnydd mewn rhent; ond nid ydym wedi gallu gwneud hyn ers cryn amser oherwydd ffactorau y tu hwnt i’n rheolaeth. Gan fod gennym ymrwymiad 5 mlynedd gan Lywodraeth Cymru byddwn yn cynnal ymgynghoriadau rhent, gan ddechrau gyda’r flwyddyn hon.

Gyda phob ymgynghoriad mae yna opsiynau felly rydym yn cynnig yr opsiynau canlynol ar gyfer lefelau rhent rhwng Ebrill 2021 a Mawrth 2022.

  • Dim cynnydd
  • Cynnydd o 0.5%
  • Cynnydd o 1%

Gallwn eich sicrhau na fydd lleihad mewn lefelau gwasanaeth os mai’r opsiwn ‘dim cynnydd’ yw’r opsiwn fydd yn cael ei ffafrio.

Mae’r ddolen i gwblhau’r arolwg yma – https://forms.office.com/Pages/ResponsePage.aspx?id=MRgpeqjnDEOXGXgOk_MvUr-n_XqykMpOrer-MTBdv6pURDcwSkE5TTBXOEk5UFBZVjFLUUswRFZLNS4u

Mae’r arolwg yn cau ar y 13eg o Ionawr 2021.

Os ydych am siarad â rhywun yn Tai Gogledd Cymru am yr arolwg hwn, cysylltwch ag Iwan Evans ar 01492 563232 neu [email protected]

Canlyniadau arolwg tenantiaid

Ym mis Mawrth mi wnaethon ni gynnal arolwg tenantiaid. Cafodd yr arolwg ei drefnu gan gwmni allanol, ac fe’i anfonwyd at holl denantiaid Tai Gogledd Cymru. Roedden ni am ddarganfod beth oeddech chi’n ei feddwl am bob rhan o TGC, o’ch cartref, i’n gwaith trwsio a’r gwasanaeth rydyn ni’n eu darparu.

Diolch i bob un ohonoch a gwblhaodd yr arolwg. Rydym yn awr yn falch o rannu’r canlyniadau gyda chi yn yr Adroddiad Cryno hwn i Breswylwyr.

Cafodd pawb a gwblhaodd yr arolwg eu cynnwys mewn raffl fawr i ennill tabled Samsung. Dewiswyd yr enillydd ar hap, a gallwn ddatgelu mai’r enillydd yw… Mr Haywood yn Bron Bethel, Rachub. Llongyfarchiadau Mr Haywood, byddwn mewn cysylltiad â chi i drefnu cyflwyno eich tabled newydd sbon i chi.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr adroddiad, cysylltwch â ni ar 01492 572727.