Ymunwch â’n Fforwm Tenantiaid newydd a dweud eich dweud ar sut mae Tai Gogledd Cymru yn cael ei redeg!
Bydd y Fforwm yn cyfarfod yn rheolaidd efo staff Tai Gogledd Cymru, ac yn rhoi cyfle i chi gael gwybodaeth, dylanwadu ar ein penderfyniadau, a chryfhau ein gwasanaethau.
Ein bwriad yw neilltuo pob cyfarfod i bwnc penodol, gan ganiatáu i aelodau ddysgu mwy am Tai Gogledd Cymru, a rhoi mewnbwn ac adborth i wella’r gwasanaethau rydyn ni’n eu darparu. Bydd y cyfarfodydd yn cael eu cynnal mewn awyrgylch cyfeillgar a hamddenol.
Oherwydd y cyfryngiadau Covid 19 rydym yn edrych i gynnal y cyfarfodydd hyn trwy sgwrs fideo. Rhoddir cefnogaeth lawn i denantiaid sydd â diddordeb mewn ymuno â’r cyfarfodydd hyn.
I ymuno, cofrestru diddordeb neu ddysgu mwy am y Fforwm Tenantiaid, cysylltwch ag Iwan Evans ar 01492 563232 neu [email protected]
Rydym eisiau rhoi ein tenantiaid wrth galon popeth fyddwn yn ei wneud… dewch i Gymryd rhan mewn pethau a rhoi eich barn ar sut mae Tai Gogledd Cymru’n cael ei redeg!
Pam ddylwn i gymryd rhan mewn pethau?
- Er mwyn cael dweud eich barn ar wasanaethau tai a chwarae rhan mewn penderfyniadau sy’n effeithio ar eich cartref chi a’r ardal rydych yn byw ynddi
- Gallwch ddysgu sgiliau newydd
- Gallwch gyfarfod preswylwyr eraill a chymryd rhan mewn gweithgareddau newydd – ac efallai hyd yn oed gael hwyl!
- Gweld gweithredu’n digwydd ar y syniadau a’r pryderon rydych wedi’u codi, a hynny o fudd i wahanol bobl
- Dod i adnabod staff Tai Gogledd Cymru a chyfarfod y bobl rydych wedi clywed eu henwau
Panel Tenantiaid a Chymunedau
Mae’r Panel yn cynnwys aelodau’r Bwrdd, tenantiaid a staff, ac mae’n cwrdd bob dau fis (ar hyn or bryd trwy sgwrs fideo oherwydd cyfyngiadau Covid 19)
Mae gan y Panel cyfrifoldeb am graffu ein gwasanaethau a perfformiad er mwyn sicrhau bod yr holl breswylwyr yn derbyn y safanau gwasanaethau ucahf posibl.
Bydd aeloadau newydd yn derbyn cefnogaeth ac hyfforddiant.
Fforwm Tenantiaid
Bydd y Fforwm yn cyfarfod yn rheolaidd efo staff Tai Gogledd Cymru, ac yn rhoi cyfle i chi gael gwybodaeth, dylanwadu ar ein penderfyniadau, a chryfhau ein gwasanaethau.
Ein bwriad yw neilltuo pob cyfarfod i bwnc penodol, gan ganiatáu i aelodau ddysgu mwy am Tai Gogledd Cymru, a rhoi mewnbwn ac adborth i wella’r gwasanaethau rydyn ni’n eu darparu.
Oherwydd y cyfryngiadau Covid 19 rydym yn edrych i gynnal y cyfarfodydd hyn trwy sgwrs fideo. Rhoddir cefnogaeth lawn i denantiaid sydd â diddordeb mewn ymuno â’r cyfarfodydd hyn.
Mwy o wybodaeth
I ymuno, cofrestru diddordeb neu ddysgu mwy amdan y Panel Tenantiaid a Chymunedau ar Fforwm Tenantiaid, cysylltwch ag Iwan Evans ar 01492 563232 neu [email protected]
A ydych angen tŷ fforddiadwy newydd?
Mae cyfle i chi fynegi eich diddordeb am dy newydd fforddiadwy mewn diwrnod agored a gynhelir yn:
Neuadd Dewi Sant, Bae Penrhyn ar
Ddydd Gwener 28ain o Chwefror 2020 rhwng 3.00pm a 6.30pm
Lawrlwythwch y poster
Rydym yn newid ein gwefan ac yn awyddus i gael eich barn am sut mae’n edrych.
Cwblhewch yr arolwg hwn a chael eich cynnwys mewn cystadleuaeth gyda chyfle i ennill gwerth £40 o dalebau’r stryd fawr!!
https://www.surveymonkey.co.uk/r/3CFVCXQ
Os hoffech wybod mwy am gyfleoedd eraill i gymryd rhan a dweud eich dweud gyda Tai Gogledd Cymru, cysylltwch ag Iwan Evans ar 01402 563232 neu [email protected]
Rydym yn cynnal arolwg boddhad tenantiaid ac eisiau gwybod beth ydych chi’n ei feddwl am Tai Gogledd Cymru.
Cwblhewch yr arolwg yma a bod gyda chyfle i ennill tabled Samsung.
Os gwelwch yn dda cymerwch yr amser i gwbwlhau’s arolwg, bydd yn helpu i lunio a gwella’r gwasanaethau yr ydym yn eu cynnig i chi.
Linc i’r arolwg: https://arpsurveys.co.uk/tgc/w
Bydd yr arolwg hwn yn cael ei gynnal gan gwmni o’r enw ‘ARP Research’ ar ein rhan. Efallai y byddan nhw yn cysylltu â chi trwy neges destun, e-bost neu drwy’r post, yn dibynnu ar y dull a ddewiswyd gennych yn yr ymarfer Proffilio Tenantiaid diweddar.
Bydd yr arolwg yn cael ei yrru drwy e-bost, neges testun neu drwy bost, dibynnu ar eich ffafriaeth chi.
Gyda chwestiwn? Cysylltwch â ni!
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am yr arolwg cysylltwch â ni yn [email protected] neu ffoniwch 01492 572202.
Mae Cyngor Gwynedd yn ymgynghori ar y drefn newydd ar gyfer gosod tai cymdeithasol. Ar ôl adolygu barn a sylwadau’r cyhoedd a chynnal adolygiad rydym yn argymell cyflwyno trefn gosod sy’n seiliedig ar ‘bandio’ angen yn ystod 2019. Byddai’r polisi newydd yn ymdrin â gosod eiddo Cartrefi Cymunedol Gwynedd, Grŵp Cynefin a Thai Gogledd Cymru.
Yma darperir mwy o wybodaeth am yr y drefn meant yn bwriadu ei gyflwyno, yn ogystal â linc i’r holiadur.
https://www.gwynedd.llyw.cymru/cy/Trigolion/Tai/Tai-Cymdeithasol.aspx
Rydym am roi tenantiaid wrth wraidd popeth a wnawn. Er mwyn gwneud hynny mae arnom angen cymaint o denantiaid â phosibl i gymryd rhan a dweud eu dweud am y ffordd y mae Tai Gogledd Cymru yn cael ei redeg.
Sut allwch chi roi eich mewnbwn?
Ymunwch â’n Panel Ymgynghorol Preswylwyr neu’r Grŵp Ymateb Cyntaf
Beth yw’r Panel Ymgynghorol Preswylwyr?
Grŵp o breswylwyr Tai Gogledd Cymru yw’r Panel Ymgynghorol Preswylwyr sy’n gyfrifol am adolygu a monitro ein gwasanaethau a’n perfformiad er mwyn sicrhau bod yr holl breswylwyr yn derbyn y safonau gwasanaeth gorau posibl.
Mae’r panel yn cyfarfod bob dau fis a darperir hyfforddiant a chefnogaeth lawn ynghyd â thalu am gostau teithio.
Mae bod yn aelod o’r Panel yn rhoi cyfle go iawn i chi leisio eich barn a dylanwadu ar sut y caiff Tai Gogledd Cymru ei redeg. Mae’r panel yn grŵp cyfeillgar a chroesawgar felly rydyn ni’n meddwl y byddwch chi’n cael hwyl!
Beth yw’r Grŵp Ymateb Cyntaf?
Cronfa ddata yw’r grŵp yma o denantiaid sydd â diddordeb mewn gweithredu fel ‘darllenwyr’ taflenni, ffurflenni, polisïau ac ati a darparu adborth,
Drwy fod yn aelod, byddwch chi’n gallu cymryd rhan mewn arolygon achlysurol, grwpiau ffocws, a chlywed am ffyrdd newydd o gymryd rhan wrth iddynt ddatblygu.
Wrth gymryd rhan, byddwch hefyd yn cael eich cynnwys mewn cystadleuaeth tynnu enwau a chyfle i ennill talebau siopau’r stryd fawr!
Pam cymryd rhan?
- Cael cyfle i ddylanwad go iawn ar eich gwasanaethau tai a chwarae rhan mewn penderfyniadau sy’n effeithio ar eich cartref a’r ardal rydych chi’n byw ynddi.
- Gallwch ddysgu sgiliau newydd.
- Gweld y syniadau a’r pryderon rydych wedi eu codi yn cael eu rhoi ar waith gan ddod â budd i amrywiaeth fawr o bobl.
- Dod i ’nabod staff TGC a rhoi wyneb i’r enw.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Iwan Evans ar 01492 563232 neu [email protected]
Rydym yn datblygu Strategaeth Cyfranogiad Tenantiaid newydd a byddem yn gwerthfawrogi eich mewnbwn.
Cwblhewch yr arolwg hwn a chael eich cynnwys mewn cystadleuaeth gyda chyfle i ennill gwerth £50 o dalebau’r stryd fawr!!
https://www.surveymonkey.co.uk/r/73LFPS2
Beth yw Cyfranogiad Tenantiaid?
Mae cyfranogiad tenantiaid yn digwydd pan fydd landlordiaid cymdeithasol yn rhannu gwybodaeth, syniadau a gwneud penderfyniadau gyda thenantiaid gan weithio gyda nhw i gytuno ar y canlynol:
- sut y dylid rheoli eu cartrefi a’u hamgylchedd lleol
- pa wasanaethau a gwelliannau gwasanaeth sydd eu hangen
- blaenoriaethau
- sut y gallwn ni weithio gyda’n gilydd i gyflawni’r rhain
Rydym yn awyddus i ddod i adnabod ein trigolion ychydig yn well. Felly Ebrill rydym yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ‘Dod i adnabod eich landlord’.
Dewch i ddweud helo a chystadlu mewn raffl i ennill tocyn anrheg TESCO gwerth £25 ac wy Pasg!
Byddwn yn darparu gwybodaeth am:
- Ein porth tenantiaid a beth sydd gan Tai Gogledd Cymru i’w gynnig yn ddigidol
- Y cyfleoedd sydd ar gael yn Tai Gogledd Cymru
- Sut i gymryd rhan a dweud eich dweud
Byddwn hefyd yn gofyn eich barn am yr hyn sydd bwysicaf i chi fel tenant a beth ddylai fod ein blaenoriaethau fel landlord.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag Iwan ar [email protected] neu 01492 563232.
Sut bydd Tai Gogledd Cymru (TGC) yn edrych o fewn 3 blynedd? Rydym am i chi ein helpu i ateb y cwestiwn hwn. Rydym yn datblygu ein Cynllun Corfforaethol 3 blynedd a fydd yn paratoi’r ffordd a gweld ble y dylai TGC fod a sut y byddwn yn cyrraedd yno.
Rydym am i’n tenantiaid fod yn ganolog i’n Cynllun Busnes ac rydym eisiau gwybod beth sy’n bwysig i chi a beth yn eich barn chi ddylai fod yn flaenoriaeth i ni.
Cyfle i ennill tocyn anrheg o’ch dewis
Byddwn yn cynnwys enw pawb sy’n cwblhau’r arolwg mewn raffl i ennill Tocyn Anrheg gwerth £50 oddi wrth naill ai Tesco, Marks & Spencer, Debenhams, Argos, Cineworld neu Pontio.
Cwblhewch yr arolwg
Os well ganddoch gwbwlhau fersiwn papur lawr lwythwch yr arolwg yma a’i ddychwelyd i Iwan Evans, North Wales Housing, Plas Blodwel. Llandudno Junction. Conwy. LL31 9HL.