Ymunwch â’n Fforwm Tenantiaid newydd a dweud eich dweud
Ymunwch â’n Fforwm Tenantiaid newydd a dweud eich dweud ar sut mae Tai Gogledd Cymru yn cael ei redeg!
Bydd y Fforwm yn cyfarfod yn rheolaidd efo staff Tai Gogledd Cymru, ac yn rhoi cyfle i chi gael gwybodaeth, dylanwadu ar ein penderfyniadau, a chryfhau ein gwasanaethau.
Ein bwriad yw neilltuo pob cyfarfod i bwnc penodol, gan ganiatáu i aelodau ddysgu mwy am Tai Gogledd Cymru, a rhoi mewnbwn ac adborth i wella’r gwasanaethau rydyn ni’n eu darparu. Bydd y cyfarfodydd yn cael eu cynnal mewn awyrgylch cyfeillgar a hamddenol.
Oherwydd y cyfryngiadau Covid 19 rydym yn edrych i gynnal y cyfarfodydd hyn trwy sgwrs fideo. Rhoddir cefnogaeth lawn i denantiaid sydd â diddordeb mewn ymuno â’r cyfarfodydd hyn.
I ymuno, cofrestru diddordeb neu ddysgu mwy am y Fforwm Tenantiaid, cysylltwch ag Iwan Evans ar 01492 563232 neu [email protected]