Cyfarwyddwr gweithrediadau newydd ar gyfer Tai Gogledd Cymru

Mae Tai Gogledd Cymru wedi penodi Cyfarwyddwr Gweithrediadau newydd.

Yn ei rôl newydd, bydd Claire Shiland yn goruchwylio tîm amrywiol o tua 130 o weithwyr a chyfeiriad strategol tai cyffredinol, tai â chymorth, tai pobl hŷn, gwasanaethau cwsmeriaid, cynnal a chadw, gwasanaethau asedau, profiad y cwsmer a phrosiectau partneriaeth gymunedol.

Mae Claire yn ymuno â Tai Gogledd Cymru o Grŵp Cynefin. Dechreuodd weithio yn y maes tai yn 2002 ac mae ei phrofiad blaenorol arall yn cynnwys gweithio i Cartrefi Conwy ac Awdurdod Lleol Ynys Môn. Claire oedd yr Arolygydd Mynediad Uniongyrchol cyntaf yn Heddlu Gogledd Cymru cyn dychwelyd i tai.

Meddai: “Mae dod yn ôl i’r sector tai ar ôl tair blynedd gyda Heddlu Gogledd Cymru wedi bod yn brofiad gwych ac mae gweithio yng Ngrŵp Cynefin wedi cadarnhau i mi pam fy mod wrth fy modd yn gweithio yn y sector hwn.

“Roedd y diwylliant, yr uchelgais a’r agwedd ystwyth yn Tai Gogledd Cymru yn apelio’n fawr ataf ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ailgysylltu â’r nifer fawr o bobl yno rydw i eisoes wedi gweithio efo nhw ac wrth gwrs dod i adnabod gweddill teulu Tai Gogledd Cymru.”

Daeth y rôl yn wag yn dilyn ymadawiad Brett Sadler a adawodd Tai Gogledd Cymru i gymryd swydd Prif Weithredwr Cymdeithas Tai West Highlands yn yr Alban.

Dywedodd Prif Weithredwr Tai Gogledd Cymru, Helena Kirk: “Rydym yn falch iawn o groesawu Claire i’r tîm. Bydd ei phrofiad helaeth a’i dealltwriaeth o’r ardal a’r sector yn allweddol i sicrhau ein bod yn parhau i gael effaith gadarnhaol sylweddol yng ngogledd Cymru.

“Mae gennym nod clir i ddarparu’r gwasanaethau y mae ein cwsmeriaid eu heisiau, i safon sy’n cynyddu boddhad cwsmeriaid ac ar gost sy’n sicrhau gwerth am arian. Bydd penodiad Claire yn caniatáu i ni adeiladu ar y gwaith a wnaed eisoes tuag at gyflawni hyn.

“Mae denu ymgeisydd o safon mor uchel, gyda sgiliau yn y Gymraeg i gyd-fynd â dymuniadau ac anghenion ein tenantiaid, yn dangos sut mae ein buddsoddiad mewn pobl a gweithio ystwyth yn helpu i gadw a denu talent fel y gallwn wireddu targedau ein cynllun corfforaethol.”