Datganiad ynglŷn â bloc o fflatiau Tai Gogledd Cymru

Estynnwn ein cydymdeimlad â’r rhai sydd wedi cael eu heffeithio gan y tân yn Nhŵr Grenfell. Yng ngoleuni’r drasiedi hon hoffem dawelu meddwl preswylwyr mai eu diogelwch nhw yw ein prif flaenoriaeth.

Er nad oes gan Tai Gogledd Cymru unrhyw fflatiau uchel, rydym yn adolygu ein holl ragofalon tân yn ein blociau o fflatiau. Lle ceir cladin, rydym yn archwilio’r deunydd a ddefnyddir yn agos ar hyn o bryd er mwyn rhoi tawelwch meddwl i’n preswylwyr.

Gallwn gadarnhau nad yw ACM, y deunydd cladin a ddefnyddiwyd yn Nhŵr Grenfell, yn bresennol mewn unrhyw un o’n heiddo.

Mae gan Tai Gogledd Cymru bolisi a gweithdrefn diogelwch tân trylwyr a chadarn, sy’n arwain ein dull gweithredu wrth reoli risg o dân yn ein heiddo. Cynhelir asesiadau risg tân ar ein holl blociau o fflatiau, Tai Aml Feddiannaeth a Chynlluniau Gwarchod sy’n dod o dan y Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005; mae’r rhain yn cael eu hadolygu bob blwyddyn. Mae gosodiadau nwy ym mhob un o’n heiddo yn cael eu gwasanaethu bob blwyddyn ac mae gosodiadau trydanol yn cael eu profi bob pum mlynedd.

Gall preswylwyr hefyd helpu i sicrhau eu diogelwch eu hunain yn eu heiddo drwy ddod yn gyfarwydd â’r drefn i adael yr adeilad mewn achos tân a rhoi gwybod i ni ar unwaith am unrhyw broblemau sy’n gysylltiedig â diogelwch tân. Mae hefyd yn bwysig i breswylwyr sicrhau bod cynteddau a llwybrau dianc yn glir ac yn rhydd o bethau a allai gynnau tân ac unrhyw eitemau fflamadwy.

I gael gwybodaeth am gadw’n ddiogel yn y cartref rydym hefyd yn cynghori tenantiaid i ymweld a gwefan Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.

Os oes gennych unrhyw bryderon yr hoffech eu trafod, cysylltwch â ni yn [email protected] neu drwy ffonio 01492 572727.