Dathlu cymydog da
Gall cael cymydog da wneud gwahaniaeth enfawr i gymuned ac mae’n rhywbeth rydym yn awyddus i wobrwyo. Bwriad y cynllun yw diolch i denantiaid Tai Gogledd Cymru sydd wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol I fywydau eu cymdogion neu’r gymuned leol.
Ydych chi’n adnabod rhywun sydd wir yn gwneud gwahaniaeth i ble rydych chi’n byw? Ydyn nhw bob amser yn cadw golwg ar eu cymdogion ac yn barod i roi help llaw pan fydd angen?
Fel tenant i ni, gallwch enwebu tenant arall Tai Gogledd Cymru am wobr, gyda chyfle iddyn nhw ennill £50, ac fel diolch am enwebu enillydd gwobr, cewch chithau hefyd daleb siopa gwerth £10.
Os ydych chi’n gwybod am denant sy’n mynd y filltir ychwanegol er mwyn helpu eraill yna rydym eisiau clywed gennych!
Dyddiad cau: 25/10/2019