Enillwyr Hunlun Gŵyl Ddewi yn cael eu coroni
Roedd ein cystadleuaeth Dydd Gŵyl Dewi yn llwyddiant unwaith eto wrth i nifer o denantiaid rannu eu hunlun Gŵyl Ddewi, sef eu #stdavidselfie, gyda ni.
Grŵp Iaith Tai Gogledd Cymru gafodd y dasg anodd o feirniadu’r cynigion. Ac roedd y dasg mor anodd fel na allent benderfynu ar un enillydd i gael y wobr gyntaf – felly mae gennym ddau brif enillydd ar y cyd!
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi mai cyd-enillwyr y wobr 1af yw Sue a Michael Jeffrey, gŵr a gwraig o Cae Mawr, Llandudno. Mae’r pâr priod wedi ennill pêl rygbi wedi’i lofnodi gan Nigel Owens a hamper yn llawn siocled a danteithion eraill.
Gan fod y safon y cynigion mor uchel mi wnaethon ni gyflwyno talebau rhodd i’r ymgeiswyr eraill hefyd.
Diolch i bawb a aeth i’r drafferth i gymryd rhan. Rydym eisoes yn meddwl am syniadau ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi y flwyddyn nesaf …