Galw preswylwyr rhwng 16-25 oed!
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (yr enw newydd ar Asiantaeth yr Amgylchedd) ar hyn o bryd yn cynnal prosiect ymwybyddiaeth llifogydd ar draws Gogledd Cymru.
Mae’r prosiect wedi ei anelu at rhai rhwng 16-25 oed sydd â diddordeb yn yr amgylchedd a/neu sydd wedi cael rhywfaint o brofiad uniongyrchol neu anuniongyrchol o lifogydd.
Maen nhw’n bwriadu cynnal dwy sesiwn grŵp ffocws er mwyn rhoi cyfle i’r rhai sy’n cymryd rhan roi eu safbwynt ar ymwybyddiaeth o lifogydd a sut y gallai Cyfoeth Naturiol Cymru wella eu gwasanaethau yn y maes hwn.
Bydd unrhyw un sy’n cymryd rhan yn un o’r 2 sesiwn sydd ar gael yn cael taleb Amazon gwerth £40 fel diolch am helpu gyda’r prosiect.
Mae’r ddwy sesiwn yn cael eu cynnal ar y dyddiau yma:
- Dydd Mercher 24 Chwefror yng Ngorsaf Dân Gymunedol y Rhyl (6pm – 7:30pm)
- Dydd Iau 3 Mawrth yng Nghanolfan Busnes Llanrwst (6pm – 7:30pm)
Os hoffech gofrestru eich diddordeb, cysylltwch ag Iwan ar 01492 563232 neu [email protected]