Gweithdai celf am ddim yng Nghonwy i Tenantiaid

Gwahoddir Tenantiaid Tai Gogledd Cymru i gymryd rhan mewn gweithdai celf am ddim sydd i’w cynnal yng Nghonwy.

Bydd y gweithdai dan ofal yr artist Nerys Jones yn seiliedig ar y syniad o greu dyluniad unigryw ar gyfer Darn Arian i Gonwy. Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn dewis storïau sydd yn ddiddorol ac o bwys iddynt o archifau Conwy ac yn creu darn arian collage. Bydd hyn yn weithgaredd creadigol llawn hwyl lle bydd hen ffotograffau yn cael eu cymysgu gyda’i gilydd ynghyd â blociau argraffu, darluniau, hen doriadau papur newydd a blociau llythyr.

Yn dibynnu ar faint y diddordeb, bydd y gweithdai yn cael eu cynnal yn ystod mis Mai. I gofrestru eich diddordeb neu am fwy o wybodaeth, cysylltwch ag Iwan Evans ar [email protected] neu 01492 572727.