Helpwch ni i wneud Cylchlythyr Tenantiaid TGC yn berthnasol i chi

Rydym am wneud Clwb Seren, ein Cylchlythyr Tenantiaid, yn rhywbeth rydych am bori ynddo, ei ddarllen a’i fwynhau. I wneud hynny mae angen i ni gael gwybod gennych beth rydych chi eisiau ei gael ohono.

Ymunwch â ni am weithdy ym mis Mawrth a fydd yn ein helpu i ddeall beth rydych chi ei eisiau gan y cylchlythyr. Beth rydych chi’n ei hoffi am y cylchlythyr presennol; beth nad ydych chi’n ei hoffi; beth fyddech chi’n hoffi cael mwy ohono? Dyma eich cyfle i ddweud wrthym!

Bydd pawb sy’n dod draw yn cael eu cynnwys mewn cystadleuaeth i ennill talebau o’u dewis naill ai o dalebau Love2Shop (Gellir eu defnyddio yn HMV, Argos, Iceland, Mothercare, a llawer mwy), talebau Grŵp Arcadia (y gellir eu defnyddio yn Topman, Topshop, Dorothy Perkins, Burton, Miss Selfridge, Outfit) neu dalebau Tesco.

Darperir lluniaeth. Caiff costau teithio eu talu nôl i chi.

Os oes gennych ddiddordeb mewn dod i’r gweithdy, cysylltwch ag Iwan Evans ar [email protected] neu ffoniwch 01492 563232.