Hosbis Dewi Sant yn elusen fuddugol Tai Gogledd Cymru

Mae cymdeithas Tai Gogledd Cymru wedi cyhoeddi ei chefnogaeth i Hosbis Dewi Sant, gan addo i gynnal ystod o fentrau a heriau elusennol er mwyn helpu i godi arian ar gyfer yr elusen yng Ngogledd Cymru.

Gwnaed y cyhoeddiad gan Brif Weithredwr TGC, Paul Diggory, yn y gynhadledd flynyddol.

Eglurodd Emma Williams, Cyfarwyddwr Cyllid Cynorthwyol ac aelod o’r grŵp elusen:

“Hon oedd y flwyddyn gyntaf i ni wneud y dewis yn agored i staff, gan gynnig elusennau enwebedig mewn pleidlais.”

“Rydym yn hynod o falch mai Hosbis Dewi Sant oedd yr elusen yn fuddugol ac rydym yn edrych ymlaen at godi arian ar eu cyfer a helpu i godi ymwybyddiaeth o’r gwaith da y maent yn ei wneud.”

Mae Hosbis Dewi Sant yn elusen gofrestredig leol sy’n darparu gofal diwedd oes rhad ac am ddim i gleifion sy’n oedolion o bob rhan o Ogledd Orllewin Cymru.Bob blwyddyn, maent yn gofalu am dros 1,600 o gleifion sy’n dioddef salwch ymledol, sy’n peryglu bywyd. Mae’r rhoddion a dderbynnir yn mynd yn uniongyrchol at ofal cleifion a chefnogi teuluoedd, ffrindiau a chydweithwyr yng nghymunedau Conwy, Gwynedd ac Ynys Môn.

Dywedodd Swyddog Datblygu Busnes yr Hosbis, Kathryn Morgan Jones:

“Ar ran pawb yn Hosbis Dewi Sant, hoffwn ddweud ein bod wrth ein bodd mai ni yw’r elusen a ddewiswyd gan Tai Gogledd Cymru. Mae’r ddau sefydliad yn ymroddedig i wneud y gorau dros gymunedau Gogledd Cymru ac rydym yn falch iawn bod gwaith Hosbis Dewi Sant wedi ysbrydoli’r staff i gefnogi ein helusen.”

“Rydym yn edrych ymlaen yn arw at weithio gyda thîm nodedig a dangos iddynt y gallwn gyda’n gilydd roi’r ansawdd bywyd gorau posibl i’n cleifion a’u teuluoedd.”

Mae Tai Gogledd Cymru hefyd wedi ffurfio grŵp Elusen am y tro cyntaf eleni, a fydd yn gyfrifol am gydlynu gweithgareddau codi arian trwy gydol y flwyddyn.

Datgelodd Emma Williams beth sydd ar y gweill:

“Mae gennym eisoes rai digwyddiadau codi arian gwych ar y gweill, gan gynnwys taith gerdded noddedig i fyny’r Wyddfa a ffair haf. Byddwn hefyd yn cymryd rhan yn Her y Ddraig a drefnwyd gan Hosbis Dewi Sant yn Llanberis ar 2 Gorffennaf a fydd yn siŵr o fod yn hwyl.”

“Y llynedd, codwyd dros £6,000 ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru. Rydym am wneud yn well fyth eleni, felly gwyliwch y gofod!”