Lansio Rhestr Tai Newydd: Cofrestrau Tai Unigol yng Nghonwy a Sir y Fflint

Mae’r ffordd y byddwch yn gwneud cais am dai cymdeithasol a sut mae cartrefi yn cael eu dyrannu yng Nghonwy a Sir y Fflint wedi newid.

Mae Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a’r holl Gymdeithasau Tai yn y siroedd hyn yn gweithio mewn partneriaeth i’w gwneud yn haws i bobl wneud cais am dai cymdeithasol.

Bellach un gofrestr tai sydd yna i bob sir ac mae pob eiddo yn cael ei ddyrannu o’r gofrestr unigol honno.

Gynt roedd gan bob Cyngor a chymdeithas tai eu cofrestrau tai eu hunain ac roedd yn rhaid i ddarpar denantiaid wneud cais i bob un ar wahân.

Mae’r system newydd yn anelu i’w gwneud yn haws i wneud cais am dai cymdeithasol a gwneud y gofrestr tai yn haws i’w deall.

O dan y system newydd, bydd pobl sy’n gwneud cais am dai cymdeithasol yn cael eu hasesu i weld a ydynt yn bodloni meini prawf statudol penodol, a fydd yn penderfynu ar eu lefel o angen am dai.

Byddant hefyd yn cael eu hasesu o ran eu cysylltiad lleol â’r ardal a’r gymuned y maent yn dymuno byw ynddi. Mae gan y system newydd nifer o fandiau, a dim ond y bobl hynny sydd â’r angen mwyaf, ac â’r brys mwyaf, fydd yn y bandiau uwch, ac felly’n cael blaenoriaeth ar gyfer tai.

Bydd Datrysiadau Tai yn trafod y dewisiadau tai gorau ar gyfer pob cwsmer yn dibynnu ar eu hamgylchiadau. Bydd y cyngor yn cynnwys yr ystod gyfan o ddewisiadau tai fforddiadwy, gan gynnwys tai cymdeithasol, llety rhent preifat, perchnogaeth cartref a dewisiadau eraill sydd ar gael.

Dywedodd Paul Diggory, Prif Weithredwr, Tai Gogledd Cymru:

Rydym yn falch o fod yn rhan o ddatblygu’r system newydd hon. Mae’n mynd i’w wneud yn haws i bobl wneud cais am dai ac ar gyfer y rhai sy’n gweinyddu ceisiadau.”

Dywedodd y Cyng. Phil Edwards, Aelod Cabinet Cymunedau Conwy:

Mae prinder o dai cymdeithasol a bydd y dull newydd hwn yn ein galluogi i ddarparu ystod o opsiynau realistig i bobl i’w helpu i ddiogelu tai yn yr ardal o’u dewis, drwy archwilio ystod o opsiynau sydd ar gael yn y sir.”

Os ydych yn gwneud cais am gartref yn Sir y Fflint neu yng Nghonwy, mae’n rhaid i chi wneud cais i:

Conwy: Datrysiadau Tai Conwy 0300 1240050 www.taiconwy.co.uk

Sir y Fflint: Datrysiadau Tai Sir y Fflint 01352 703777 www.taifflint.co.uk