Mae ein gwefan yn newid!

Y llynedd fe wnaethon ni ofyn i chi am eich barn a’ch syniadau am wefan Tai Gogledd Cymru. Rydym wedi bod yn gweithio’n galed y tu ôl i’r llenni ar y safle newydd ac rydym yn falch o gyhoeddi bod y wefan newydd bron yn barod.

Byddwn yn cyhoeddi pryd fydd y wefan yn newid ar ein tudalen Facebook a Twitter.

Rydym yn gobeithio y byddwch yn hoffi ein gwefan newydd. Rydym yn croesawu pob adborth drwy [email protected], 01492 572727 neu drwy ysgrifennu at: Marchnata, Tai Gogledd Cymru, Plas Blodwel, Broad Street, Cyffordd Llandudno, Conwy. LL31 9HL.