Nain yn nodi 35 mlynedd gyda’r Gorlan wrth i’r cynllun llety gwarchod ddathlu pen-blwydd arbennig

Mae Nain o Fangor wedi canmol y cynllun llety gwarchod lle mae hi wedi magu ei theulu, wrth i’r Gorlan ddathlu pen-blwydd arbennig.

Glenys Rowlands oedd y person cyntaf i symud i mewn i ddatblygiad Y Gorlan ym Mangor ar ôl cymryd swydd fel warden byw i mewn, gan symud i’w chartref yn 1987 gyda’i gŵr a’i thri o blant, a oedd yn saith, tair a dwy oed ar y pryd.

Erbyn hyn mae Glenys yn mwynhau croesawu ei hwyrion i’r Gorlan ac yn dweud bod y datblygiad wedi cael effaith aruthrol ar fywydau cannoedd o breswylwyr dros ei chyfnod yno.

Mae Y Gorlan wedi ei leoli yng nghanol Bangor ac yn cael ei redeg gan Tai Gogledd Cymru.

Mae’n gweld preswylwyr yn cynnal bywyd cymdeithasol gweithgar tra’n mwynhau holl fanteision byw mewn cynllun llety gwarchod sy’n galluogi pobl i gadw eu hannibyniaeth.

Meddai Glenys:

“Ein nod yw creu naws gymunedol ac annibyniaeth i breswylwyr am gymaint o amser â phosibl tra’n cynnig cefnogaeth lle bo angen.

“Gall preswylwyr deimlo’n ddiogel gan wybod bod cymorth bob amser wrth law mewn argyfwng.

“Dros y blynyddoedd, mae’r bobl sy’n byw yma wedi dod yn debyg i deulu estynedig i mi, maen nhw wedi gwylio fy mhlant yn tyfu i fyny ac mae hyn yn rhywbeth na fyddwn i wedi ei newid am y byd.”

Mae tenantiaid yn mwynhau tripiau dydd gyda’i gilydd yn rheolaidd ac mae’r landlord wedi cynnal sesiynau gwirfoddoli i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor sy’n dod draw i wneud te a chynnal gweithgareddau i’r preswylwyr.

Mae’r cynllun yn cynnig 31 o fflatiau hunangynhwysol hawdd eu rheoli ar gyfer pobl dros 60 oed ac yn rhoi’r opsiwn i deuluoedd sy’n ymweld ddefnyddio ystafell westeion am dâl bychan.

Mae bywyd yn Y Gorlan wedi newid yn sylweddol dros y blynyddoedd ac mae bellach yn gartref i gymysgedd o denantiaid ag anghenion gwahanol. Cyn ei swydd fel warden byw i mewn, hyfforddodd Glenys i fod yn nyrs, ac mae’r sgiliau hynny wedi bod o ddefnydd iddi pan fo preswylwyr wedi bod yn sâl.

Ychwanegodd Glenys:

“Mae pwyslais yn Y Gorlan ar dreulio amser gyda phobl wyneb yn wyneb fel ffordd o helpu i fynd i’r afael ag unigrwydd, yn enwedig ar ôl y pandemig. Mae gan y llety ystafell gyffredin i breswylwyr gymysgu â’i gilydd ac mae boreau coffi yn cael ei gynnal yn rheolaidd bob pythefnos, gan gynnwys rhai ar gyfer elusen.”

Does dim cynlluniau gan Glenys i roi’r gorau i’w gwaith yn Y Gorlan. Mae hi wedi dod yn rhan ganolog o fywyd y llety gwarchod ac wedi cynnig wyneb cyfeillgar i breswylwyr sydd angen cefnogaeth.

Meddai Eirlys Parry, Pennaeth pobl hŷn:

“Dyma ddathliad gwych i’r Gorlan. Rydym yn hynod o lwcus i gael Glenys yn rheoli’r cynllun dros y blynyddoedd, mae hi’n gaffaeliad mawr i Tai Gogledd Cymru ac rydym mor ddiolchgar am ei holl waith caled. Diolch o waelod ein calonnau Glenys.

Pen-blwydd Hapus i’r Gorlan, gobeithio eich bod wedi mwynhau eich dathliad; pob dymuniad da ar gyfer y 35 mlynedd nesaf!”