Newidiadau i’n Gwasanaeth Cwsmeriaid

Fel rhan o’n hymdrech barhaus i wella ein gwasanaeth cwsmeriaid, rydym yn gwneud newidiadau rydym yn credu fydd yn gwella’r gwasanaeth rydym yn ei ddarparu.

Y prif newid yw ein bod yn dod â Gwaith Trwsio a Gwasanaeth Cwsmeriaid at ei gilydd o dan un tîm. Mae hyn yn golygu, o ddydd Mawrth 17 Hydref 2017 ymlaen, pan fyddwch yn ffonio 01492 572727 na fyddwch yn clywed mwy nag un opsiwn bellach; yn lle hynny, cewch eich cysylltu efo Cynghorydd Gwasanaeth Cwsmeriaid.

Bydd Cynghorwyr Gwasanaeth Cwsmeriaid yn gallu eich helpu gyda’r rhan fwyaf o’ch ymholiadau. Mae’r rhain yn cynnwys logio gwaith trwsio neu ymholiadau am waith presennol, eich helpu gyda’ch balans rhent, eich pasio ymlaen i Allpay i wneud taliad rhent yn ogystal ag unrhyw ymholiadau cyffredinol eraill.

Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi wneud llawer o’r pethau hyn ar-lein 24/7 gan ddefnyddio FyTGC? Dysgwch fwy am FyTGC yma.

Bydd y Tîm Rhenti yn dal ar gael i’ch helpu os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch ôl-ddyledion ar eich cyfrif rhent neu os ydych eisiau cyngor.

Mae hwn yn newid eithaf mawr i’r sefydliad, ac i’r Tîm Gwasanaeth Cwsmeriaid. Fe fyddem yn gwerthfawrogi eich amynedd yn fawr wrth i’r Tîm arfer efo ffordd newydd o weithio a dysgu.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu adborth ar y gwasanaeth newydd, cysylltwch â ni ar 01492 572727 neu [email protected] .