Panel i breswylwyr Tai Gogledd Cymru yn magu stem

Mae Panel Ymgynghorol Preswylwyr a ffurfiwyd yn ddiweddar (sef yr hen Banel Craffu Preswylwyr) yn Nhai Gogledd Cymru yn magu stêm ac yn chwilio am aelodau newydd .

Mae’r grŵp o breswylwyr sydd ar hyn o bryd yn ffurfio panel o oed amrywiol, yn ddynion a merched, ac yn byw ar draws Gogledd Cymru. Mae’r panel eisoes wedi dod yn rhan bwysig o reoli a llywodraethu parhaus y sefydliad, yn dilyn ei ffurfio tua deuddeg mis yn ôl.

Dywedodd Paul Diggory, Prif Weithredwr Tai Gogledd Cymru:

“Mae’r Panel Ymgynghorol Preswylwyr yn ffordd wych i ni sicrhau bod llais y tenantiaid yn cael ei glywed ac yn ei dro , yn rhoi adborth a barn am ein dulliau llywodraethu a gweithredu. Eisoes mae gennym dîm gwych ond rydym yn awyddus i glywed gan denantiaid eraill, yn enwedig pobl ifanc a fyddai’n gallu dod â phersbectif hanfodol a gwahanol i’r panel.”

Mae’r panel yn cyfarfod yn rheolaidd i adolygu perfformiad a thrafod unrhyw faterion a meysydd i’w gwella.

Mae bod yn aelod o’r Panel Ymgynghorol y Preswylwyr yn cynnig cyfle gwirioneddol i ddylanwadu ar sut y mae Tai Gogledd Cymru yn gweithredu. Mae’n rôl amrywiol a heriol sy’n rhoi dylanwad uniongyrchol i breswylwyr ar y ffordd y mae’r sefydliad yn gweithio. Bydd y rôl hefyd yn rhoi profiad a sgiliau defnyddiol hawdd eu trosglwyddo i sefyllfaoedd nad ydynt yn ymwneud â thai. Rhoddir hyfforddiant llawn a bydd costau yn cael eu talu am fynychu cyfarfodydd ac unrhyw ddigwyddiadau perthnasol eraill.

Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn dod yn aelod o’r panel gysylltu â ni ar 01492 572727 neu drwy anfon e-bost at [email protected]