TGC yn ymrwymo i ddod â stigma am iechyd meddwl i ben
Ar ddydd Gwener 2 Hydref llofnodwyd addewid Amser i Newid gan Brif Weithredwr Tai Gogledd Cymru, Helena Kirk, a thrwy hynny fe ffurfiolwyd ein hymrwymiad i newid y ffordd rydyn ni’n meddwl ac yn gweithredu am iechyd meddwl yn y gwaith.
Esboniodd Helena:
“Mae arwyddo Addewid Amser i Newid Cymru yn dangos ymrwymiad ein sefydliad i greu man gwaith sy’n rhydd o wahaniaethu a stigma iechyd meddwl, ac i newid y ffordd rydyn ni’n meddwl ac yn gweithredu am iechyd meddwl yn y gwaith.
Rydyn ni am ei gwneud hi’n beth cyffredin i weithwyr ddweud “rwy’n cael trafferth”, “rwy’n gweithio gormod” neu “mae angen cefnogaeth arnaf” yn y man gwaith heb iddyn nhw ofni canlyniadau negyddol.”
Gan fod y rhan fwyaf o’n horiau effro yn cael eu treulio yn y gwaith, gall ein hamgylchedd gwaith chwarae rhan fawr yn ein hiechyd a’n llesiant. Mae eleni wedi bod yn arbennig o heriol, ac mae Tai Gogledd Cymru yn cydnabod hynny ac wedi buddsoddi amser yn iechyd a llesiant staff fel rhan o’u Strategaeth Pobl.
Esboniodd Lynne Williams, Pennaeth Pobl:
“Mae gennym grŵp Iechyd a Llesiant ymroddedig sy’n hybu iechyd a llesiant i staff mewn ffordd hwyliog a gafaelgar. Rydym am i staff ofalu am eu hunain, fel y gallan nhw fod y fersiynau gorau o’u hunain.
Rydym hefyd wedi buddsoddi mewn hyfforddiant sy’n gysylltiedig â hyn; mae 37 aelod o staff bellach yn Rheolwyr hyfforddedig, gan roi’r offer iddynt helpu i reoli a hyrwyddo iechyd meddwl cadarnhaol yn y man gwaith.”
Fodd bynnag, mae Tai Gogledd Cymru yn cydnabod bod llawer mwy i’w wneud, a dim ond y cam nesaf yn eu taith yw llofnodi’r addewid.