Tîm Incwm yn bwrw iddi!
Dydd Llun y 28ain o Chwefror mae Tîm Incwm Tai Gogledd Cymru ar ei newydd wedd yn gweithio i ddarparu gwasanaethau casglu incwm ar draws ein hardal weithredu. Gan weithio mewn pedair ardal ddaearyddol, bydd pob swyddog yn gyfrifol am weithio gyda’n tenantiaid a rhoi cymorth.
Bydd y trawsnewid i weithio mewn ardaloedd yn cael ei wneud mewn dau gam, a disgwylir i’r “cyfnod hyfforddi” cychwynnol barhau 6 mis cyn i ni symud i’r strwythur ardal barhaol ym mis Medi 2022. Rydym yn ei wneud fel hyn i wneud yn siŵr bod holl aelodau grŵp y tîm yn gallu derbyn yr hyfforddiant a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i ddarparu gwasanaethau rhagorol a chyson i’n holl denantiaid a chydweithwyr. Y rhain yn ôl eu hardaloedd yw:
- Swyddog Incwm y Gorllewin – Martin Williams
- Swyddog Incwm Canol – Karlene Jones
- Swyddog Incwm y Dwyrain – Joann Fisher
- Swyddog Cyngor Ariannol ac Incwm – Nicky Thomas
- Swyddog Incwm Cyfreithiol a Swyddog Incwm Ynys Môn – Rhian Hughes
- Swyddog Incwm Cynorthwyol – Hannah Williams
- Swyddog Incwm Allan o Oriau – Kieren Lewis
- Rheolwr Incwm – Darren Thomas.
Mae croeso i chi gysylltu ag unrhyw un yn y Tîm Incwm os hoffech drafod ein strwythur newydd a gweld sut y gallwn gydweithio.