Ymunwch â ni ar gyfer sesiwn codi sbwriel cymunedol o amgylch Parc Clarence!

Bydd staff TGC yn codi sbwriel o amgylch Parc Clarence ddydd Llun 3 Ebrill 2023 rhwng 10am a 12pm a gobeithiwn y gallwch ymuno â ni.

Mae sesiynau codi sbwriel yn ffordd wych o ymwneud ag aelodau eraill o’ch cymuned a gwneud gwahaniaeth i’ch man awyr agored lleol. Bydd hefyd yn gyfle i gwrdd â staff TGC a fydd yn arwain y sesiwn codi sbwriel.

Bydd croeso i blant o Parc Clarence ond rhaid iddynt fod yng nghwmni oedolyn. Bydd y plant sy’n mynychu yn cael eu gwobrwyo ag wy Pasg!

Dyddiad: Dydd Llun 3 Ebrill 2023

10am – 12pm

Dewch i gyfarfod efo ni ger y MUGA/Y maes chwarae pêl-droed astroturf ym Maes Clyd am 9:50am ar gyfer sesiwn gyflwyno cyn i ni ddechrau.

Byddwn yn darparu’r holl offer codi sbwriel a menig ond gofynnwn i chi wisgo dillad ac esgidiau addas ar gyfer y tywydd ar y diwrnod.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r ymgyrch codi sbwriel, cysylltwch â Stephen Kay ar 01492 563213 [email protected] neu Iwan Evans ar 01492 563232 [email protected]