Ymunwch â’n Panel Ymgynghorol Preswylwyr – Helpwch ni i wella ein gwasanaethau!

Mae’r Panel yn grŵp o denantiaid sy’n cyfarfod yn fisol ac maent yn rhan bwysig o’r broses barhaus o reoli a llywodraethu’r sefydliad. Mae bod yn aelod o’r Panel Ymgynghorol Preswylwyr yn gyfle go iawn i ddylanwadu ar sut y mae Tai Gogledd Cymru yn gweithredu.

Maent yn grŵp cyfeillgar a chroesawgar sydd bob amser yn chwilio am denantiaid newydd i ymuno â nhw.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y Panel neu os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn aelod, e-bostiwch [email protected] neu ffoniwch ni ar 01492 572727.