Enwebu Cymydog i ennill hamper Nadolig!

Mae tenantiaid Tai Gogledd Cymru yn cael eu gwahodd i ‘Enwebu Cymydog’ y maent yn credu sy’n haeddu syrpréis Nadolig cynnar a hamper yn llawn pethau da.

Fel tenant Tai Gogledd Cymru, gallwch enwebu tenant arall i fod â chyfle i ennill hamper Nadolig.

Ydych chi’n adnabod rhywun sydd wedi bod yn gymydog da? Aelod gwerthfawr o’r gymuned? Rhywun sydd wedi mynd yr ail filltir? Rhywun sy’n haeddu ychydig bach mwy o hwyl yr ŵyl?

Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw dydd Mercher y 1af o Ragfyr 2021.

Y ffordd gyflymaf i enwebu yw trwy anfon e-bost at [email protected]  neu fel arall ffoniwch 01492 572727.

Wrth wneud eich enwebiad, cofiwch gadarnhau eich enw a’ch cyfeiriad, enw a chyfeiriad y person rydych chi’n ei enwebu, a hefyd y rhesymau pam eich bod chi’n enwebu’r person hwnnw

Enillwyr Cystadleuaeth Cymdogion Da yn cael eu datgelu

Diolch i bawb a gymerodd ran yng nghystadleuaeth Cymdogion Da TGC.

Bellach gallwn ddatgelu mai’r enillwyr yw… Amy Hale o Gerddi Canada, Caergybi a Cliff Astill o Cae Clyd, Llandudno.

Darganfyddwch pam y cawsant eu dewis trwy ddarllen crynodeb o’u henwebiadau isod:

Amy Hale o Gerddi Canada, Caergybi

Enwebwyd Amy gan gymydog a ddywedodd – Mae hi’n gwneud cymaint i mi fy hun a’r gymdogaeth a hefyd i’r plant i gyd. Yn enwedig trwy gydol yr haf newydd fynd.

Cliff Astill o Cae Clyd, Llandudno

Enwebwyd Cliff gan gymydog a ddywedodd – Mae’n gwneud llawer ar yr ystâd ac mae’n berson hyfryd. Mae bob amser yn cadw llygad ar bawb yn ein bloc, ac yn mynd â’r biniau allan bob wythnos. Nid oes unrhyw beth yn ormod o drafferth iddo ac mae bob amser yn barod i helpu gydag unrhyw beth y gall.

Diolch eto i bawb a gymerodd ran. Cadwch lygaid allan am y gystadleuaeth TGC nesaf.

Canlyniadau Cystadleuaeth Garddio NWH 2021

Mae’r pleidleisiau i mewn, mae’r beirniaid wedi siarad; mae enillwyr cystadleuaeth Garddio NWH wedi cael eu datgelu! 

Yr Ardd orau 

1af Tomos Williams, Cwm Teg 

2il (Cydradd) Paul Halford, Bryn Eglwys a Agnes Jones Cwrt, WM Hughes 

3ydd (Cydradd) Laszlo Keri, Llys y Coed, Jean Hayward Hafod y Parc a Ann Clegg Hafod y Parc 

Yr ardd sydd wedi gwella fwyaf  

1af Claire Davies, Y Gilan 

Y Lle / Gardd Gymunedol Orau 

1af (Cydradd) Pat Law a Geoff Palmer, Ty John Emrys, a preswylwyr Cwrt Taverners – Shirley Thomas, Val Conway, a David John Griffths 

2il (Cydradd) Brian Edwards, Monte Bre a preswylwyr St Mary’s 

3ydd Preswylwyr Llys y Coed – Brenda a Geoff Uttley, Donald Blackman, a Leslie Evans 

Yr ardd potiau orau  basgedi, bocsys enestri ac ati 

1af Liliana Owen, Llys y Coed 

2il Roger Sowersby, Llys y Coed 

Diolch i bawb a gymerodd ran, mae eich gerddi i gyd yn edrych yn anhygoel! 

Ennillwyr cystadleuaeth Pasg

Diolch i bawb wnaeth gymryd rhan yn ein cystadleuaeth greadigol WY-ch y Pasg.

Mae’r bwnni Basg wedi ystyried y ceisiadau yn ofalus, ac wedi penderfynu mai’r enillwyr yw:

1af Lillianna Owen Llys y Coed, Llanfairfechan

2il Heather Townsend Y Gorlan, Bangor

3ydd Bethan Hughes, Llys Mair, Bangor

Llongyfarchiadau i Lilianna, Heather a Bethan a diolch eto i bawb a gymerodd ran!

Datgelu enillwyr cystadleuaeth Celf Nadolig

Ym mis Rhagfyr lansiwyd cystadleuaeth Nadolig gennym, gan ofyn i breswylwyr greu gwaith celf ar beth oedd y Nadolig yn ei olygu iddyn nhw. Gallai hyn fod wedi yn unrhyw beth; llun, paentiad, collage neu arddangosfa.

Diolch i bawb a gymerodd ran, mae gennym breswylwyr gwirioneddol greadigol!

Rydym yn falch o ddatgelu mai’r enillwyr yw Anne o Hafod y Parc Abergele am ei harddangosfa o’r Geni, a Bethan o Lys Mair am ei collage coed Nadolig.

Llongyfarchiadau i Anne a Bethan a diolch i bawb a gymerodd ran.

Rhowch gynnig ar gystadleuaeth celf Nadolig

Rydym yn lansio cystadleuaeth Nadolig! Lluniwch waith celf am beth mae’r Nadolig yn ei olygu i chi… Gall fod yn ddarlun, paentiad, collage neu arddangosiad… byddwch yn greadigol!

Dyddiad cau: Dydd Gwener 18 Rhagfyr.

Sut i gymryd rhan

Gyrrwch eich darlun i [email protected] neu postiwch ar ein tudalen Facebook a gyru neges preifat gyda eich manylion cyswllt.

Gwobrwyo cymdogion da

Mae Tai Gogledd Cymru wedi dathlu ysbryd cymunedol gyda’u ‘Gwobr Cymdogion Da’ am y drydedd flwyddyn yn olynol. Mae’r gystadleuaeth boblogaidd yn talu teyrnged i denantiaid Tai Gogledd Cymru sydd wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol i fywydau eu cymdogion.

Eglurodd Iwan Evans, y Cydlynydd Cyfranogiad Tenantiaid:

“Roedd y nifer o enwebiadau yn uwch nag erioed wrth i gymdogion ddod at ei gilydd yn y frwydr yn erbyn Coronafeirws, gan helpu ei gilydd mewn cyfnod o angen. 

Roedd ein cynlluniau Pobl Hŷn yn ei chael hi’n arbennig o anodd yn dilyn y cyfyngiadau a orfodwyd arnom eleni, ac mi wnaethon nhw helpu ei gilydd yn fawr iawn yn ystod yr amser hwn. Felly nid yw’n syndod bod y ddau enillydd yn dod o’n cynlluniau Gofal Ychwanegol. 

Rydym yn falch o ddatgelu mai enillwyr eleni yw Geoff Uttley o Lys y Coed a Jean Hayward o Hafod y Parc.”

Mae Geoff yn aelod gweithgar o gymdeithas preswylwyr y cynllun, sydd bob amser yn barod i gynnig help llaw i’w gyd-breswylwyr, o helpu i ailosod cetris inc i siopa am neges. Pan mae hynny’n cael ei ganiatáu, ef hefyd yw’r cyntaf i drefnu gweithgareddau yn y cynlluniau i godi calon. Pan gafodd y cyfyngiadau eu llacio, trefnodd Geoff ddangosiad ffilm gyda phellhau cymdeithasol a roddodd hwb fawr i breswylwyr.

Mae Jean wedi cael ei disgrifio fel ‘gem’, ac mae wedi helpu llawer o breswylwyr Hafod y Parc, gan gynorthwyo gyda’u siopa a’u tasgau cyffredinol, yn ogystal â bod yn brysur iawn gydag ardal yr ardd, gan helpu i’w wneud yn lle braf i’r preswylwyr ymlacio ynddo.

Llongyfarchiadau Geoff a Jean ar ennill y gystadleuaeth hon a diolch yn fawr i chi am fod yn gymdogion mor dda.

Canlyniadau arolwg tenantiaid

Ym mis Mawrth mi wnaethon ni gynnal arolwg tenantiaid. Cafodd yr arolwg ei drefnu gan gwmni allanol, ac fe’i anfonwyd at holl denantiaid Tai Gogledd Cymru. Roedden ni am ddarganfod beth oeddech chi’n ei feddwl am bob rhan o TGC, o’ch cartref, i’n gwaith trwsio a’r gwasanaeth rydyn ni’n eu darparu.

Diolch i bob un ohonoch a gwblhaodd yr arolwg. Rydym yn awr yn falch o rannu’r canlyniadau gyda chi yn yr Adroddiad Cryno hwn i Breswylwyr.

Cafodd pawb a gwblhaodd yr arolwg eu cynnwys mewn raffl fawr i ennill tabled Samsung. Dewiswyd yr enillydd ar hap, a gallwn ddatgelu mai’r enillydd yw… Mr Haywood yn Bron Bethel, Rachub. Llongyfarchiadau Mr Haywood, byddwn mewn cysylltiad â chi i drefnu cyflwyno eich tabled newydd sbon i chi.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr adroddiad, cysylltwch â ni ar 01492 572727.

Ennillwyr Cystadleuaeth Garddio 2020

Rydym yn falch o ddatgelu enillwyr enillwyr Cystadleuaeth Garddio Tai Gogledd Cymru 2020. Yr enillwyr yw…

Yr Ardd Orau

  1. Tomos Williams Cwm Teg, Old Colwyn
  2. Agnes Jones Cwrt WM Hughes Llandudno
  3. Residents of Ty John Emrys, Colwyn Bay (Including Geoff, Pat, Josh and Gina, and Sam

Yr ardd sydd wedi gwella fwyaf

  1. Annette Herbert Maes yr Orsedd Llandudno
  2. Mark and Sharon Clarence Road Llandudno
  3. Joint 3rd Catherine Charles of Bryn Felin Conwy & Robbie Carr of Llain Cytir Holyhead

Yr ardd potiau orau

  1. Hafod y Parc Abergele residents (including Jean Hayward, Jim Mullins , and Violet Mort)
  2. Jack Morris of Bryn Felin Conwy
  3. Joint 3rd Brian Edwards of Monte Bre Llandudno & Carl Garner Penrhos Korner Llandudno Junction

Special mention and thanks also to the below who have been taken great care of their garden areas:

  • Taverners Court Llandudno residents – Val Conway, Marie Bailey, and Shirley Thomas
  • Llys y Coed Llanfairfechan residents Laslo Keri, David & Edelgarde Ware, Geoff & Brenda Uttley, Roger Sowersby , Don & Frances Blackman, and Dorothy Caldwell.
  • Noddfa Colwyn Bay  resident Andrew Roffey
  • Residents at St Mary’s Hostel, Bangor

Dywedodd Iwan, Cydlynydd Cyfranogiad Tenantiaid:

“Roedd y safon yn rhagorol eleni ac yn anodd iawn dewis yr enillwyr. Mae’r holl gynigion wedi creu argraff fawr arnom, mae’n amlwg bod yr holl ymgeiswyr wedi bod yn gweithio’n galed yn ystod Covid-19 ac wedi gofalu am eu gerddi yn dda iawn. ”

Gwobrwyo enillydd Cymydog Da

Eleni oedd yr ail dro i ni gyflwyno’r Wobr Cymydog Da. Pwrpas y gwobrau hyn yw talu teyrnged i denantiaid Tai Gogledd Cymru sydd wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol i fywydau eu cymdogion.

Enillydd eleni yw Robert Lloyd o Maes Clyd Llandudno, a enwebwyd gan un o’i gymdogion, Teressa Roberts o Maes Clyd.

Meddai Teressa:

“Pan symudais i yma doeddwn i ddim yn nabod unrhyw un yn yr ardal. Doedd gen i ddim teulu yma. Mae’n ddyn gwirioneddol garedig a gododd fy ysbryd a wnaeth fy helpu yn ôl ar fy nhraed. Mae hefyd wedi bod fel taid i fy merch.

Dyma’r rhai ddaeth yn ail (nid mewn unrhyw drefn arbennig)

  • James Mullins Hafod y Parc, Abergele
  • Lorraine a Mal Jones Cae Clyd Llandudno
  • Kelly Morris Cae Mawr Llandudno

Llongyfarchiadau i Robert, James, Lorraine a Mal, a Kelly a diolch i bawb wnaeth enwebu cymydog.