Dathlu cymdogion da

Gall cael cymydog da wneud gwahaniaeth enfawr i gymuned ac mae’n rhywbeth rydym yn awyddus i wobrwyo.

Bwriad y cynllun yw diolch i denantiaid Tai Gogledd Cymru sydd wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol i fywydau eu cymdogion neu’r gymuned leol.

Ydych chi’n adnabod rhywun sydd wir yn gwneud gwahaniaeth i ble rydych chi’n byw? Ydyn nhw bob amser yn cadw golwg ar eu cymdogion ac yn barod i roi help llaw pan fydd angen?

Fel tenant i ni, gallwch enwebu tenant arall Tai Gogledd Cymru am wobr, gyda chyfle iddyn nhw ennill £50, ac fel diolch am enwebu enillydd gwobr, cewch chithau hefyd daleb siopa gwerth £10.

Os ydych chi’n gwybod am denant sy’n mynd y filltir ychwanegol er mwyn helpu eraill yna rydym eisiau clywed gennych! Dyddiad cau: 25/10/2019

Dathlu cymydog da

Gall cael cymydog da wneud gwahaniaeth enfawr i gymuned ac mae’n rhywbeth rydym yn awyddus i wobrwyo. Bwriad y cynllun yw diolch i denantiaid Tai Gogledd Cymru sydd wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol I fywydau eu cymdogion neu’r gymuned leol.

Ydych chi’n adnabod rhywun sydd wir yn gwneud gwahaniaeth i ble rydych chi’n byw? Ydyn nhw bob amser yn cadw golwg ar eu cymdogion ac yn barod i roi help llaw pan fydd angen?

Fel tenant i ni, gallwch enwebu tenant arall Tai Gogledd Cymru am wobr, gyda chyfle iddyn nhw ennill £50, ac fel diolch am enwebu enillydd gwobr, cewch chithau hefyd daleb siopa gwerth £10.

Os ydych chi’n gwybod am denant sy’n mynd y filltir ychwanegol er mwyn helpu eraill yna rydym eisiau clywed gennych!

Dyddiad cau: 25/10/2019

Ffurflen nomineiddio

Poster

Enillwyr y gystadleuaeth garddio

Gwyddwn nawr pwy yw garddwyr gorau Tai Gogledd Cymru gan fod enillwyr Cystadleuaeth Garddio 2019 wedi eu cyhoeddi.

Y rhestr lawn o enillwyr yw:

 

Yr Ardd Orau

Dwyrain

1af Sue Jeffrey Cae Mawr, Llandudno

2ail Dougie Weatherby Cae Mawr, Llandudno

Gorllewin

1af Maureen Evans Cae Bach, Tal y Bont

2ail Pendinas Hostel Bangor

 

Yr ardd sydd wedi gwella fwyaf

Dwyrain

1af Joan Stansfield & Majorie Roberts Parc Menai, Llanfairfechan

2ail Carl Garner & Gary Blakemore Penrhos Korner, Cyffordd Llandudno

Gorllewin

1af Steven Blundell Ffordd Eithinog, Bangor

 

Yr ardd potiau orau

Dwyrain

1af Mrs Liliana Owen Llys y Coed, Llanfairfechan

2ail ar y cyd Mr Keri Llys y Coed, Llanfairfechan

2ail ar y cyd Mrs Jean Hayward Hafod y Parc, Abergele

3ydd ar y cyd Mrs Joan Collins & Mr Reginald Atkinson Taverners Court, Llandudno

3ydd at y cyd Mr & Mrs Blackman Llys y Coed, Llanfairfechen

Gorllewin

1af Mr & Mrs Parry Gallt y Sil, Caernarfon

2ail Norman & Pauline Bromley Llain Eglwys, Maesgeirchen

3ydd Fred Buckley Cae Garnedd Bangor

 

Gardd/gofod cymunedol taclusa

Dwyrain

1af Monte Bre Hostel, Llandudno

2ail Nerys Prosser & Pat Connor Llain Deri, Colwyn Bay

3ydd ar y cyd Llys y Coed Tîm Patio, Llanfairfechan

3ydd ar y cyd Mr Lesley Evans Llys y Coed, Llanfairfechan

Gorllewin

1af St Mary’s Hostel, Bangor

Roedd Iwan Evans, Cydlynydd Cyfranogiad y Tenantiaid yn un o’r beirniaid a ymwelodd â’r ymgeiswyr i gyd:

“Diolch yn fawr i bawb wnaeth gymryd rhan, roedd y safon yn ofnadwy o uchel. Llongyfarchiadau i’r holl enillwyr.”

Bydd y gystadleuaeth garddio yn ôl eto blwyddyn nesaf, felly meddyliwch am eich cais nawr.

Ennill ticedi Eisteddfod Genedlaethol

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst eleni, ac rydym ni am fod yna!

Rydym ni eisiau chi ymuno a ni ac yn rhoi ffwr dau set o dicedi i denantiaid TGC.

Sut rydych am ennill? Licio ac ysgrifennu ‘Dwi isio mynd i’r Eisteddfod’ ar ein postyn Facebook yma.

Ddim ar Facebook? E-bostiwch [email protected] yn dweud ‘Dwi isio mynd i’r Eisteddfod’!

Dyddiad cau yw Dydd Mawrth 30 Gorffennaf. Mae’r gystadleuaeth mond ar agor i denantiaid Tai Gogledd Cymru. Bydd enillwyr yn cael eu dewis gan eneradur rhifyn ar hap.

Dywedwch wrthym beth ydych chi’n ei feddwl ac ENNILL tabled

Rydym yn cynnal arolwg boddhad tenantiaid ac eisiau gwybod beth ydych chi’n ei feddwl am Tai Gogledd Cymru.

Cwblhewch yr arolwg yma a bod gyda chyfle i ennill tabled Samsung.

Os gwelwch yn dda cymerwch yr amser i gwbwlhau’s arolwg, bydd yn helpu i lunio a gwella’r gwasanaethau yr ydym yn eu cynnig i chi.

Linc i’r arolwg: https://arpsurveys.co.uk/tgc/w

Bydd yr arolwg hwn yn cael ei gynnal gan gwmni o’r enw ‘ARP Research’ ar ein rhan. Efallai y byddan nhw yn cysylltu â chi trwy neges destun, e-bost neu drwy’r post, yn dibynnu ar y dull a ddewiswyd gennych yn yr ymarfer Proffilio Tenantiaid diweddar.

Bydd yr arolwg yn cael ei yrru drwy e-bost, neges testun neu drwy bost, dibynnu ar eich ffafriaeth chi.

Gyda chwestiwn? Cysylltwch â ni!

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am yr arolwg cysylltwch â ni yn [email protected]  neu ffoniwch 01492 572202.

Ennill ticedi Eisteddfod Genedlaethol

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn Ynys Môn eleni, o 4-12 Awst 2017.

Hoffech chi ymweld? Rydym yn rhoi i ffwrdd pedwar set o docynnau! Gallwch ennill mewn dau ffordd:

  • Licio ac ysgrifennu ‘Dwi isio mynd i’r Eisteddfod’ ar ein postyn Facebook yma
  • Ebostio [email protected] yn dweud ‘Dwi isio mynd i’r Eisteddfod’

Dyddiad cau yw Dydd Iau 3ydd Awst. Mae’r cystadleuaeth mond ar agor i denantiaid Tai Gogledd Cymru.

Enillwyr ein cystadleuaeth garddio yn cael eu datgelu

Rydym wedi bod yn brysur yn beirniadu’r gystadleuaeth garddio a gallwn nawr cyhoeddi enillwyr y gystadleuaeth 2017.

Yr Ardd Orau

Dwyrain

  • 1af Keith a Caroline Thomas, Ffordd y Graig, Hen Golwyn
  • 2il Danny Davies, Llannerch y Mor, Penmaenmawr
  • 3ydd Sue Jeffrey, Cae Mawr, Llandudno

Gorllewin

  • Steven Blundell, Ffordd Seiriol, Bangor

Yr ardd sydd wedi gwella fwyaf

Dwyrain

  • Danny Davies, Llannerch y Mor, Penmaenmawr

Gorllewin

  • Lynne Pierce a Glyn Pritchard, Uxbridge Court, Bangor

Yr ardd potiau orau

Dwyrain

  • 1af Gillian Hexley, Water Street, Penmaenmawr
  • 2ail Chris Williams, Taverners Court, Llandudno

Gorllewin

  • Preswylwyr hostel Santes Fair, Bangor

Gardd/gofod cymunedol taclusa

Dwyrain

  • Preswylwyr Metropole (Jane O’Pray, Janet Leighs, Ian Ravenscroft, and Keith Simmonds)

Gorllewin

  • Preswylwyr Pendinas Hostel

Diolch yn fawr i bawb wnaeth gymryd rhan, roedd y safon yn ofnadwy o uchel. Llongyfarchiadau I’r holl enillwyr.

Bydd y gystadleuaeth garddio yn ôl eto blwyddyn nesaf, felly meddyliwch am eich cais nawr. Os nid ydych yn arddwr, beth am ein cystadleuaeth ffotograffiaeth.

Mae cystadleuaeth ffotograffiaeth TGC yn ôl!

Am yr ail flwyddyn yn olynol rydym yn chwilio am ffotograffwyr amatur i gymryd rhan yn ein cystadleuaeth ffotograffiaeth, Y Darlun Mawr.

Y thema eleni yw delwedd sydd wedi ‘Dal eich llygad’. Gall fod yn unrhyw beth o dirwedd, adeiladu, anifeiliaid, pryfaid, cwmwl neu wrthrych, mae’r cyfan i fyny i chi.

Felly chwiliwch am ysbrydoliaeth ac i ffwrdd â chi i dynnu lluniau!

Mae dau gategori oedran ar gael:

  • 16 oed a hŷn
  • 15 oed ac iau

Rhaid i bob ymgeisydd fod yn denant Tai Gogledd Cymru.

GWOBRAU – Bydd yna wobrau i’r enillwyr ac i’r ail orau ym mhob categori.

Sut i Gymryd Rhan

Y dyddiad cau Dydd Gwener 27 Hydref 2017

Gyrwch eich lluniau i [email protected], gan gynnwys y gwybodaeth canlynol:

  • Eich enw, cyfeiriad, rhif ffôn a cyfeiriad ebost
  • Categori oed
  • Disgrifiad byr o’ch ffotograff a pham rydych chi wedi ei gynnig i’r gystadleuaeth (dim mwy na 50 gair)

Ydych chi’n defnyddio Facebook, Twitter neu Instagram? Gyrrwch eich ceisiadau drwy rhain: Facebook, Twitter, Instagram.

Os byddai’n well gennych gyflwyno eich cynnig ar bapur, cysylltwch â Iwan Evans ar 01492 563232.

Mae Cystadleuaeth garddio TGC yn nol!

Yn dilyn llwyddiant y gystadleuaeth garddio blwyddyn ddiwethaf rydym yn nol am yr ail flwyddyn!

Rydym yn galw holl arddwyr brwd i gymryd rhan yn ein cystadleuaeth garddio. Mae’r catgoriau wedi newid rywfaint blwyddyn yma. Y categorïau yw:

  • Yr Ardd Orau
  • Yr ardd sydd wedi gwella fwyaf i denantiaid sydd wedi gwella eu gardd (bydd angen lluniau o’r ardd fel yr oedd yn arfer edrych)
  • Yr ardd potiau orau Potiau, basgedi, bocsys ffenestri ac ati
  • Gardd/gofod cymunedol taclusa

Y dyddiad cau yw 23 Mehefin 2017 a disgwylir i’r beirniadu digwydd ym mis Gorffennaf 2017.

Lawr lwythwch a chwblhewch y ffurflen gais yma.

Os hoffech gael mwy o fanylion am y gystadleuaeth yna cysylltwch ag Iwan Evans ar 01492 563232 neu [email protected].

Enillwyr Hunlun Gŵyl Ddewi yn cael eu coroni

Roedd ein cystadleuaeth Dydd Gŵyl Dewi yn llwyddiant unwaith eto wrth i nifer o denantiaid rannu eu hunlun Gŵyl Ddewi, sef eu #stdavidselfie, gyda ni.

Grŵp Iaith Tai Gogledd Cymru gafodd y dasg anodd o feirniadu’r cynigion. Ac roedd y dasg mor anodd fel na allent benderfynu ar un enillydd i gael y wobr  gyntaf – felly mae gennym ddau brif enillydd ar y cyd!

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi mai cyd-enillwyr y wobr 1af yw Sue a Michael Jeffrey, gŵr a gwraig o Cae Mawr, Llandudno. Mae’r pâr priod wedi ennill pêl rygbi wedi’i lofnodi gan Nigel Owens a hamper yn llawn siocled a danteithion eraill.

Gan fod y safon y cynigion mor uchel mi wnaethon ni gyflwyno talebau rhodd i’r ymgeiswyr eraill hefyd.

Diolch i bawb a aeth i’r drafferth i gymryd rhan. Rydym eisoes yn meddwl am syniadau ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi y flwyddyn nesaf …