Prosiect Pobl Ifanc (Prosiect 277)

Mae’r prosiect hwn yn darparu cymorth cysylltiedig â thai i unigolion o Wynedd rhwng 16 -18 oed, sy’n ymwneud â thîm 16+ Gwasanaethau Cymdeithasol Gwynedd.

Mae’r prosiect yn darparu llety preswyl i hyd at dri o bobl ifanc, ac yn cynnig cefnogaeth symudol yn y gymuned ar gyfer pobl ifanc sy’n byw’n annibynnol yn y gymuned.

Mae’r prosiect yn cynnig cefnogaeth mewn perthynas â:

  • Datblygu sgiliau byw’n annibynnol
  • Annog ymddygiad cymdeithasol cadarnhaol
  • Datblygu ac annog perthnasau cadarnhaol
  • Ymgysylltu â chyflogaeth, gwirfoddoli ac addysg
  • Lles a chefnogaeth emosiynol
  • Datblygu diogelwch personol a chymunedol

Nid yw hon yn rhestr gyflawn ond mae’n rhoi syniad o’r ymagwedd gyfannol rydym yn ei darparu i bobl ifanc.

Am fwy o wybodaeth ffoniwch ni ar 01248 372083 neu e-bostiwch [email protected].