Tai â Chymorth

Mae Tai Gogledd Cymru yn ddarparwr tai â chymorth yng Ngogledd Orllewin Cymru. Mae wedi bod yn darparu cartrefi ers dros 20 mlynedd i ddefnyddwyr gwasanaeth sydd mewn sefyllfa fregus ac yn agored i niwed.

Rydym yn darparu dros 300 o unedau tai â chymorth i bobl mewn sefyllfa fregus. Mae’r bobl hynny’n cynnwys y digartref, pobl gyda thrafferthion cyffuriau ac alcohol, pobl gyda materion iechyd meddwl, cyn-droseddwyr, pobl gydag anableddau dysgu a phobl ieuengach sy’n gadael gofal.

Ein nod ni, gyda’r holl dai â chymorth rydym yn eu darparu, yw rhoi’r hyder a’r wybodaeth i ddefnyddwyr gwasanaeth fedru cymryd rheolaeth ar eu bywydau. Trwy hynny byddant yn gallu darganfod pa ddewisiadau a chyfleoedd sydd ar gael iddynt. Bydd pob defnyddiwr gwasanaeth yn cael cefnogaeth un-i-un ar faterion fel cael gwaith ac addysg neu wasanaethau iechyd, a dysgu sgiliau bywyd – fel sut i goginio a rheoli cyllideb – fydd yn arwain at lwyddo i fedru cadw tenantiaeth annibynnol ar ôl symud ymlaen.

Rydym yn cymryd rhan mewn nifer o brosiectau, rhai sy’n cael eu rheoli gennym ni ac eraill mewn partneriaeth ag asiantaethau arbenigol sy’n darparu’r gofal a’r gefnogaeth i’r defnyddiwr gwasanaeth.

Bydd tai â chymorth Tai Gogledd Cymru hefyd yn darparu gwasanaethau eraill fel gwasanaethau estyn allan (allgymorth) ac ailsefydlu i bobl ddigartref, cefnogi pobl ifanc sy’n ymwneud gyda’r gwasanaeth cyfiawnder ieuenctid a gwasanaethau addysg a chyflogaeth.