Ein Cartrefi

Ar hyn o bryd mae gan Tai Gogledd Cymru tua 2,700 o gartrefi ar hyd a lled Gogledd Cymru, gan gynnwys Gwynedd, Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych a Wrecsam.

Mae ein tai yn gymysgedd o dai i renti ac ar werth, cynnig tai fforddiadwy i unigolion, teuluoedd, ac unedau tai â chymorth ar gyfer y preswylwyr hynny sydd angen ychydig o gymorth ychwanegol. Rydym hefyd wedi datblygu arbenigedd mewn llety pobl hŷn, cynnig nifer o opsiynau ar gyfer y rhai sydd dros 55 oed gan gynnwys ein cynlluniau Gofal Ychwanegol arloesol.

Mae cartrefi ar gael i’w prynu trwy ein cynlluniau Perchnogaeth Gartref Cost Isel.

Mae twf a datblygiad yn hynod o bwysig i ni. Mae ein Tîm Adfywio mewnol yn ymroddedig i adeiladu cartrefi newydd o ansawdd uchel. Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein Datblygiadau Cyfredol yma.