Ar gyfer pobl dros 55 oed

Mae Tai Gogledd Cymru yn cynnig nifer o opsiynau tai fforddiadwy ar gyfer pobl dros 55 oed ar draws gogledd Cymru. Mae’r tai hyn yn galluogi preswylwyr i fyw’n annibynnol mewn cartref hawdd i’w reoli, gan eu gadael yn rhydd i fwynhau eu bywyd gyda thawelwch meddwl bod cymorth wrth law pan fydd ei angen.

Mae Tai Gwarchod yn rhoi cyfle i bobl fyw yn rhywle gyda’u drws ffrynt eu hunain a chadw eu hannibyniaeth, ond gyda’r sicrwydd hefyd bod cymorth a chyngor Warden wrth law pan fydd angen hynny.

Mae Gofal Ychwanegol yn gysyniad newydd mewn tai Pobl Hŷn, maent yn galluogi preswylwyr i fyw’n annibynnol yn eu fflatiau hunangynhwysol eu hunain ond maent hefyd yn cynnig gofal a chymorth ar y safle os a phan fo’r angen.