Amdanom ni

Sefydlwyd Tai Gogledd Cymru yn 1974, a bellach rydym yn darparu cartrefi a chyflenwi gwasanaethau i dros 2,700 o gartrefi ar draws Gogledd Cymru.

Rydym yn deall gwerth a phwysigrwydd cartref da. Mae datblygu yn greiddiol i weledigaeth TGC yn y dyfodol, ac fe wnaethon ni ail-gyllido yn 2020 er mwyn rhoi mwy o gapasiti i ni barhau i ddatblygu cartrefi newydd. Rydym wedi ymrwymo i dros 200 o gartrefi newydd o ansawdd erbyn 2023.

Ond rydym yn fwy na dim ond brics a morter; rydym yn arweinydd yn y farchnad ranbarthol mewn meysydd hanfodol fel Tai â Chymorth, darparu tai a gwasanaethau i bobl sy’n agored i niwed, gan gynnwys pobl ddigartref, pobl â phroblemau cyffuriau ac alcohol a phroblemau iechyd meddwl.

Nid oes modd osgoi’r ffaith ein bod ni’n boblogaeth sy’n heneiddio, ac mae TGC wedi datblygu arbenigedd mewn cartrefi i Bobl Hŷn dros y blynyddoedd. Rydym yn cynnig sawl opsiwn tai ar gyfer y rhai dros 55 oed, gan gynnwys ein cynlluniau Gofal Ychwanegol arloesol.

Caiff ein tenantiaid eu rhoi wrth galon popeth a wnawn. Mae ymgysylltu â’n preswylwyr a gwrando arnynt yn bwysig i ni ac mae gweithio gyda grwpiau tenantiaid yn ein helpu i ddeall eu hanghenion, ar gyfer heddiw ac yfory.

Rydym yn cyflogi hyd at 180 o bobl ac rydym yn falch o arddangos ein hachrediad Buddsoddwyr mewn Pobl. Pobl sydd wrth galon TGC, a dyna pam rydyn ni’n gwneud cymaint ag y gallwn i helpu a chefnogi eu hiechyd a’u lles.