Diogelu Data

Mae Tai Gogledd Cymru yn casglu ac yn storio gwybodaeth bersonol am ein tenantiaid, pobl eraill sy’n byw yn ein tai ac ymgeiswyr am dai. Mae’r wybodaeth hon (o’r ffurflenni tenantiaeth, cyfweliadau â swyddogion ac ati) yn cael ei alw’n ‘ddata personol’. Mae’r gyfraith yn rhoi’r hawl i chi wybod pa wybodaeth sydd gennym ni amdanoch chi, ac mae’n ofynnol i ni ei defnyddio yn deg a phriodol mewn ffyrdd rydych chi’n eu deall. Hefyd cewch ofyn i ni gywiro’r wybodaeth os yw’n anghywir.

Mae gennym ni Hysbysiad Preifatrwydd sydd yn esbonio sut mae’r sefydliad yn casglu ac yn prosesu gwybodaeth bersonol er mwyn cynnal gweithgareddau busnes arferol.

Gallwch lawr lwytho isod ein polisiau perthnasol I diogelu data, gan gynnwys ein Hysbysiad Preifatrwydd.

Polisiau