Ymgynghoriadau ac arolygon

Mae’n bwysig i ni fod gan denantiaid lais ar sut rydyn ni’n cael ein rhedeg. Fodd bynnag, rydym yn gwerthfawrogi eich bod yn brysur ac efallai na fyddwch yn gallu ymrwymo i ymuno ag un o’n grwpiau tenantiaid. Un ffordd y gallwch chi gael eich cynnwys yw trwy gymryd rhan yn un o’n hymgynghoriadau, neu trwy gwblhau un o’n harolygon tenantiaid.

Dim arolwg ar hyn o bryd

Rydym yn defnyddio’r sylwadau a gasglwyd i lunio penderfyniadau am y gwasanaethau yn Tai Gogledd Cymru. Fe wnaethon ni lunio ‘Fe ddywedoch chi, fe wnaethon ni’ ar ôl pob ymgynghoriad, sy’n dangos sut rydyn ni wedi ystyried eich sylw a pha gamau sydd wedi cael eu cymryd, neu a fydd yn cael eu cymryd. Os na allwn roi weithredu rhywbeth, mi fyddwn yn onest am hynny ac yn egluro pam. Gweld ein hadroddiadau diweddaraf a chanlyniadau ein harolygon, a gweld sut mae cwsmeriaid wedi helpu i ddylanwadu ar ein gwasanaethau.

Adroddiadau diweddaraf a chanlyniadau ein harolygon