Os oes angen cefnogaeth arnoch gyda’ch iechyd meddwl a’ch llesiant, ewch i rai o’r gwasanaethau hyn isod.
Os ydych chi’n teimlo y gallech chi geisio lladd eich hun, neu efallai eich bod chi wedi niweidio eich hun yn ddifrifol, mae angen help meddygol ar frys arnoch. Dylech:
- ffonio 999 am ambiwlans
- mynd yn syth i’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys, os gallwch chi
- neu ffonio eich tîm argyfwng lleol, os oes gennych eu rhif.
Os na allwch wneud hyn ar eich pen eich hun, gofynnwch i rywun eich helpu. Mae argyfyngau iechyd meddwl yn ddifrifol. Nid ydych chi’n gwastraffu amser unrhyw un.
Samariaid https://www.samaritans.org/
Amser i Newid Cymru https://www.timetochangewales.org.uk/en/need-help/
C.A.L.L. – Llinell Cynghori a Gwrando Cymunedol http://www.callhelpline.org.uk/
MIND Cymru https://www.mind.org.uk/need-urgent-help/using-this-tool
Hafal https://www.hafal.org/