Sut i wneud Cais

Fel rhan o’n proses recriwtio, gall Tai Gogledd Cymru wneud trefniadau i roi yr ymgyrch recriwtio, hidlo ceisiadau, cyn-sgrinio a swyddogaethau recriwtio cysylltiedig yn allanol i’r JVP Group. Yn yr achosion hyn fe’ch cyfeirir at system Tracio Ymgeiswyr JVP a dylech ddilyn eu cyfarwyddyd ar sut i wneud cais.

1. Lawrlwytho ffurflen gais

Gallwch lawrlwytho copi o’r ffurflen gais yma.

2. Cwblhau

Unwaith y byddwch wedi lawrlwytho’r copi o’r ffurflen gais gallwch ei gwblhau ar eich cyfrifiadur.

Bydd angen i chi sicrhau eich bod yn llenwi pob adran, gan gynnwys:

  • Brif ffurflen gais
  • Cyfle Cyfartal
  • Hunan Asesu Sgiliau Iaith

Efallai bydd y canllaw hwn ar sut i gwblhau eich ffurflen gais yn ddefnyddiol. I gael cymorth gyda’r asesiad Sgiliau Iaith Gymraeg cyfeiriwch at yr adnoddau iaith Gymraeg.

3. Dychwelyd

Gallwch ddychwelyd eich ffurflen gais gan e-bostio’r ffurflen i [email protected]

Os oes angen cymorth i lenwi’r ffurflen gais, neu os oes mewn fformat arall, e.e. ar dâp neu mewn Braille, gallwch gysylltu â [email protected] neu ffoniwch 01492 563240.

Hysbysiad Preifatrwydd Ymgeisydd am Swydd

Fel rhan o’r broses recriwtio, Mae Tai Gogledd Cymru yn casglu a phrosesu data personol sydd yn berthnasol am ymgeiswyr am swydd. Mae mwy o wybodaeth am hyn ar gael yn Rhybudd Preifatrwydd Ymgeisydd am Swydd.

Cyfle Cyfartal

  • Mae Tai Gogledd Cymru wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Bydd ceisiadau yn cael eu hystyried ar sail teilyngdod yn unig, heb ystyried oedran, rhyw, lliw, hil, anabledd, statws priodasol, crefydd, credoau, tueddfryd rhywiol neu darddiad ethnig neu genedlaethol.
  • Mae Tai Gogledd Cymru yn ddeiliad symbol “dau dic” Canolfan Byd Gwaith Yn gadarn o blaid pobl anabl. Mae hyn yn golygu gwarantu cyfweliad i rai ag anabledd os ydych yn bodloni’r meini prawf hanfodol ac wedi rhoi gwybod i ni o dan adran Gwybodaeth Gyffredinol y ffurflen gais hon. Am fwy o wybodaeth ewch i’r wefan llywodraeth yma.