16 oed ac iau? Rhowch gynnig ar ein cystadleuaeth Celf Nadolig!
**Mae’r gystadleuaeth nawr wedi cau. Gallwch gael gwybod pwy yw’r ennillwyr yma.**
Lluniwch waith celf am beth mae’r Nadolig yn ei olygu i chi … Gall fod yn unrhyw beth cyn belled â’i fod yn Nadoligaidd!
Gall fod yn ddarlun, paentiad neu collage – Byddwch yn greadigol!
Gwobrau – Bydd gwobrau i’r enillwyr a’r ail orau yn y categorïau oed gwahanol.
Dyddiad cau: Dydd Gwener, 9 Rhagfyr, 2016
Sut i gymryd rhan?
- Postiwch eich cynigion at: Tai Gogledd Cymru, Plas Blodwel, Broad Street, Cyffordd Llandudno, LL31 9HL
- E-bostiwch lun o’r gwaith celf at: [email protected]
Dylech gynnwys enw, oed, cyfeiriad a rhif ffôn/e-bost cyswllt ar BOB cynnig. Rhaid i enw’r rhiant neu warcheidwad gael eu cynnwys hefyd.
Yn anffodus, ni allwn warantu dychwelyd lluniau.