Enillwyr Cystadleuaeth Celf Nadolig yn cael eu datgelu
Wnaethom ni alw ar ein holl denantiaid ifanc a gofyn iddynt wneud cais ar ein Cystadleuaeth Celf Nadolig.
Beth mae’r Nadolig yn ei olygu i chi? Mae holl denantiaid wedi bod yn greadigol ofnadwy, ac mae nifer o geisiadau Nadoligaidd wedi landio ar ein desgiau (dim gan Sïon Corn yn anffodus!).
Mae’r beirniad wedi bod yn brysur yn ystyried y ceisiadau artistig ac wedi dewis yr enillwyr:
- Abbey Ellen Davies, oed 5, Y Gilan, Llysfaen
- Mark Hodgson, oed 7, Llain Cytir, Caergybi
- Hellen Yesil, oed 13, Maes Derw, Cyffordd Llandudno
- Denise Yesil oed 14, Maes Derw, Cyffordd Llandudno
- Shannon Mercer oed 16, Ffordd Bugail, Bae Colwyn
Dywedodd Iwan Evans, Cydlynydd Cyfranogiad Tenantiaid:
Diolch yn fawr iawn i bawb wnaeth gymryd rhan. Roedd safon y ceisiadau yn ofnadwy o uchel ac rwyf wedi mwynhau edrych ar y ceisiadau sydd wedi eu gyrru mewn. Llongyfarchiadau i’r enillwyr i gyd!”