Adolygiad Blynyddol ar gael nawr

Roedd yn flwyddyn brysur a chynhyrchiol i Tai Gogledd Cymru ac rydym wedi gweld llwyddiannau gwirioneddol nodedig yn ystod y flwyddyn. Un o’r uchafbwyntiau oedd derbyn y wobr Arian yn y categori ‘Cymdeithas Tai Gorau’ yng Ngwobrau What House 2015.

Roedd eleni hefyd yn nodi cychwyn ein datblygiad cyntaf yn Wrecsam, gan ein gwneud yn Gymdeithas Tai Gogledd Cymru yng ngwir ysytr y geiriau.

Unwaith eto eleni mae ein Hadolygiad Blynyddol yn un digidol, gan arbed arian ar gostau argraffu yn ogystal â bod yn fwy ymwybodol o’r effaith ar yr amgylchedd.

Darllenwch yr Adolygiad yma

Cliciwch ar y gwahanol gylchoedd o fewn yr Adolygiad i edrych yn ôl ar rai o uchafbwyntiau eraill y flwyddyn ym mhob adran.

Beth yw eich barn? Gadewch i ni wybod beth yw eich barn am Adolygiad Blynyddol eleni drwy anfon e-bost at [email protected].